Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol
Busnes ac addysg

Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2024 2:19 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Byddwch yn barod at fis Medi! Derbyniwch gymorth gyda chost hanfodion ysgol
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod bod yna grant y gallech wneud cais amdano tuag at gostau nifer o bethau pwysig y mae plant eu hangen ar gyfer yr ysgol?

Cynnwys
  • Ydw i’n gymwys i gael y grant?
  • Sut i ymgeisio
  • Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol?
  • Trefnu prydau ysgol

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu pobl ar incymau isel i dalu am gostau nifer o eitemau ysgol gwahanol…a ddim o anghenraid y rhai mwyaf amlwg.

Gall y grant eich helpu i dalu am:

  • wisg ysgol
  • dillad chwaraeon ysgol
  • gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach (er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a Guides)
  • offer (megis bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu)
  • offer arbennig lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau (megis dylunio a thechnoleg)
  • offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol (megis dillad gwrth ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored)
  • gliniadur neu ddyfais tabled

Y grant sydd ar gael i blant sydd yn cychwyn ym Mlwyddyn 7 yw £200, ac i blant ym mhob blwyddyn ysgol arall, o’r dosbarth derbyn i fyny at Blwyddyn 11, y swm yw £125.

Meddai y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn cefnogi teuluoedd ar incymau isel, ac fe ellir ei ddefnyddio tuag at hanfodion amrywiol, felly pethau fel gwisg ysgol a dillad chwaraeon, ond ar gyfer pethau pwysig eraill hefyd y mae plant eu hangen yn ystod eu hastudiaethau. 

“Boed yn ddyfais megis gliniadur neu ddyfais tabled, neu rywbeth penodol y maent ei angen ar gyfer pwnc penodol, mae’r grant yno i helpu i dalu rhywfaint o’r costau yma.  Rwy’n annog rhieni a gofalwyr cymwys i ymgeisio am y grant yma sydd o gymorth amhrisiadwy i deuluoedd incwm isel yn ystod cyfnod parhaus o heriau costau byw.”

Ydw i’n gymwys i gael y grant?

Mae unrhyw blentyn sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n mynychu’r ysgol yn Wrecsam, ac sydd yn y grwpiau blwyddyn canlynol yn gymwys i gael y grant:

  • Yn cychwyn yn y dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
  • Yn cychwyn blynyddoedd ysgol 1 i 11
  • Mewn ysgol arbennig, mewn lleoliad adnodd anghenion arbennig neu mewn uned cyfeirio disgyblion ac yn 4 i 15 oed

Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys hefyd, waeth beth yw eu statws o ran prydau ysgol am ddim.

NI FYDD plant sy’n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys am y grant. NI FYDD plant sydd yn cychwyn yn y dosbarth derbyn ym mis Medi, ac sydd ond yn derbyn prydau trwy’r cynnig cynhwysol, yn gymwys chwaith.

Os oes mwy na 12 mis wedi pasio ers i chi gael eich asesu am brydau ysgol am ddim (neu os yw eich amgylchiadau wedi newid), bydd angen i chi ailymgeisio am brydau ysgol am ddim yn gyntaf.

Pan fyddwch chi wedi cael cadarnhad eich bod yn gymwys, yna gallwch wneud cais am y grant hwn.

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol ar ein gwefan. Y dyddiad cau i gyflwyno eich cais yw 31 Mai, 2025.

Cyflwynwch un cais yn unig, os oes angen, gallwch ychwanegu nifer o blant i’r un cais (mae’n bosibl y bydd cyflwyniadau niferus yn oedi prosesu eich grant).

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y grant yn cael ei dalu trwy BACS i’ch cyfrif banc.

I ddysgu mwy am y pethau y byddwch eu hangen i fod yn barod ar gyfer tymor yr ysgol tarwch olwg ar ein tudalen ysgolion ac addysg.

Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol?

Ydych chi’n ystyried defnyddio cludiant i’r ysgol? Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am gludiant i’r ysgol, eisiau dysgu am lefydd sydd wedi’u dyrannu (yr ydych chi’n talu amdanynt) neu eisiau dysgu am docynnau bws newydd, mae popeth ar gael yma 👉 https://www.wrecsam.gov.uk/service/cludiant-ysgol

Trefnu prydau ysgol

Wedi sortio prydau ysgol ar gyfer mis Medi? Mae gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais am brydau ysgol am ddim, neu ganfod sut i archebu a thalu am brydau ysgol, a dysgu am ginio di-arian ar gael yma 👉 https://www.wrecsam.gov.uk/service/prydau-ysgol

Pennaeth profiadol i arwain Ysgol Clywedog – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:Schoolysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Cefn Mawr library bike and scooter racks Standiau newydd i feics a sgwteri yng Nghefn Mawr
Erthygl nesaf Summer Reading Challenge Her Ddarllen yr Haf 2024 – “Crefftwyr Campus”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026
sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English