Maen nhw’n dweud bod y Nadolig yn dymor o ewyllys da ac roedd hyn yn wir yng nghynllun tai lloches Erw Gerrig yn ddiweddar.
Mae cynllun Erw Gerrig yn cynnwys 22 eiddo. Mae tenantiaid yma wedi bod yn cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd fel rhan o’n prosiect gwelliannau tai.
Roedd y tenantiaid wedi penderfynu rhoi ysgogiad ychwanegol i weithwyr ein contractwyr, CLC i wneud y gwaith yn iawn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ffordd arbennig o ddweud diolch
Bob bore, byddai’r tenantiaid yn paratoi rholiau bacwn i’r gweithwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi cael digon o fwyd cyn iddynt fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig o osod ceginau a’r ystafelloedd ymolchi newydd.
Mae’n rhaid bod y bonws brecwast wedi gwneud y tric, oherwydd yn ogystal â gwneud y gwaith gwella, roedd y gweithwyr o CLC hefyd wedi dyfeisio eu ffordd eu hunain o ddweud diolch.
Oherwydd lletygarwch gwych y tenantiaid, casglodd y gweithwyr £60 ar gyfer tocyn rhodd a’i gyflwyno i Raffl Nadolig y tenantiaid.
Cyflwynwyd tusw o flodau lliwgar i’r tenantiaid hefyd i ddweud diolch yn fawr.
Rhoi croeso i’r gweithwyr
Eglurodd tenant Erw Gerrig, John White, lle daeth y syniad o: “Cefais y syniad ar ôl i mi weld rhywbeth tebyg yn y cynllun tai gwarchod St Michael yn Rhiwabon. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n braf pe gallem ei ymestyn i gweithwyr CLC yma yn Ewr Gerrig felly nes i awgrymu i’n warden a’r tenantiaid a chytunodd pawb ohonom y byddai’n syniad da.
“Rydyn ni i gyd yn hapus iawn hefo’n ceginau newydd. Maent o ansawdd uchel iawn.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y tocyn rhodd a’r blodau a gawsom gan weithwyr y CLC. Byddwn ni’n defnyddio’r tocyn ar gyfer bwffe nosweithiau ein blwyddyn newydd, felly rydym oll yn edrych ymlaen at hynny!”
Dywedodd yr Aelod lleol ar gyfer Pant, y Cyng. David Maddocks: “Rwy’n falch iawn bod y gwaith gwella wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac mae’n wych clywed am yr haelioni rhwng y tenantiaid a’r contractwyr. Mae John a’r tenantiaid wedi gwneud llawer o ymdrech i groesawu’r gweithwyr ac maent wedi diolch iddynt am eu lletygarwch mewn ffordd deimladwy iawn.
Mae hefyd yn galonogol iawn gweld bod tenantiaid y cyngor yma ac yn yr ardal gyfagos wedi gallu cael budd o’n ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a bod cartrefi yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Rydym am gyflawni’r safon dai newydd
Mae gwaith gwella tai yn gwneud cynnydd ar draws y Fwrdeistref Sirol wrth i ni barhau i foderneiddio cartrefi a sicrhau eu bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru.
Rydym yn buddsoddi £56.4miliwn yn y gwaith hwn yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys £7.5miliwn o Lwfans Atgyweiriadau Mawr a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng David Griffiths: “Rydym wedi gwneud llawer o waith eleni gyda gwelliannau ar filoedd o eiddo fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ailweirio trydanol, systemau gwres canolog newydd, ail-doi, Inswleiddio Waliau Allanol a gwaith ffensio a phalmentydd.
“Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni’r safon ac mae’n wych clywed bod tenantiaid fel y rhai yn Erw Gerrig mor falch gyda’r gwaith a wneir yn eu cartrefi.”
Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI