Aeth Eloise Williams i ymweld â nifer o ysgolion Wrecsam yn ystod y mis diwethaf, wrth i’r awdur llyfrau plant helpu disgyblion i rannu syniadau, creu cymeriadau a datblygu straeon.
Un o’r ysgolion yr aeth Eloise iddi yn Wrecsam oedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro ar 20 Ionawr, pan agorodd llyfrgell yr ysgol yn swyddogol.
Yn Ngwenfro, siaradodd Eloise gyda’r plant am eu harferion darllen, rhoddodd gyflwyniad i wasanaeth yr holl ysgol am ei gwaith, a siarad am sut beth yw bywyd fel awdur.
Gweithiodd Eloise gyda disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar ddatblygu ysgrifennu creadigol, pan lunion nhw eu hynysoedd a’u cymeriadau eu hunain. Roedd hi wrth ei bodd yn ateb cwestiynau gan y plant, a fe llofnododd gopïau o’i llyfrau.
Cafodd Eloise gacennau a oedd wedi’u gorchuddio’n greadigol gyda fersiynau bach o’i llyfrau tra bu yn Gwenfro ac roeddent wedi creu argraff arni!
One of the schools I was in today gave me cakes with little versions of my books on the top. My first #Wilde cakes!!!!
No pressure on other schools but… ???? pic.twitter.com/L5CaKK4W35— Eloise Williams (@Eloisejwilliams) January 20, 2020
Dywedodd Kate Owen-Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro: “Roedd yn wych cael Eloise yn ymweld â’n hysgol i agor ein llyfrgell yn swyddogol. Roedd y plant wir wedi mwynhau gwrando am ei bywyd fel awdur, ac roedd pawb wedi cael eu hysbrydoli gan ei hymweliad.”
Eloise yw awdur Llawryfog Plant Cymru 2019-2021. Dyma rôl lysgennad, sy’n bwriadu ‘ymgysylltu ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plentyn i gael straeon a llais’.
Mae’r @laureate_wales wedi bod yn brysur tu hwnt trwy’r wythnos yn mwynhau yng nghanol creadigrwydd plant Sir Ddinbych a Wrecsam. Fel y gwelwch chi o’r lluniau, cafodd Eloise a’r plant amser wrth eu bodd! #LaureateWales #Sgwennadyddyfodol pic.twitter.com/z21Oc1VPGJ
— Llenyddiaeth Cymru (@LlenCymru) January 24, 2020
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN