Mae gwyliau’r haf yn agosau ac mae gan Amgueddfa Wrecsam ddigonedd o ddigwyddiadau i lenwi’ch dyddiaduron a diddanu’r plant.
A newyddion gwych i rieni…maen nhw’n rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle!
26 Gorffennaf
1-3pm Sesiwn Grefftau
Addurno tarian o bren i fynd adref gyda chi
27 Gorffennaf
10.30am-1.30pm Chwarae ar thema Paent!
Mae hon yn sesiwn flêr felly sicrhewch eich bod yn dod â dillad sbâr gyda chi a phethau i lanhau eich plentyn fel hen liain neu weips.
2 Awst
1-3pm Sesiwn Grefftau
Dylunio eich cit pêl-droed eich hun
3 Awst
10.30am-1.30pm Chwarae Darnau Rhydd!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal waeth beth fydd y tywydd, felly sicrhewch eich bod yn barod, boed law neu hindda!
9 Awst
1-3pm Sesiwn Grefftau
Creu eich nod tudalen papyrws eich hun ar thema’r Aifft
10 Awst
10.30am-1.30pm Chwarae Darnau Rhydd!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal waeth beth fydd y tywydd, felly sicrhewch eich bod yn barod, boed law neu hindda!
16 Awst
1-3pm Sesiwn Grefftau
Dylunio eich bathodyn pêl-droed eich hun
17 Awst
10.30am-1.30pm Chwarae Dinas Cardfwrdd!
Beth fyddwch chi’n ei greu gan ddefnyddio cardfwrdd yn y sesiwn chwarae awyr agored hon?
19 Awst
10.30am-3pm Chwaraeon Sgiliau Proffesiynol
Digwyddiad i deuluoedd sy’n cynnwys pêl-droed aer, dartiau, golff mini a llawer mwy yn yr awyr agored ar ein blaengwrt!
Mae llawer yn digwydd ar draws y Fwrdeistref Sirol dros yr haf, felly cofiwch gadw golwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael y manylion.
Facebook: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Twitter: @cbswrecsam
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR