Dathlwch droad y tymhorau a chroesawu’r hydref gyda staff yr amgylchedd yng Ngŵyl y Cynhaeaf wrth i ni ryfeddu at berllannau a’u pwysigrwydd ar gyfer bioamrywiaeth a bwyd.
Mae perllannau yn llefydd perffaith ar gyfer pryfed peillio yn y gwanwyn gan fod y blodau yn ffynonellau bwyd i’w croesawu ym mis Mai a mis Mehefin.
Yn draddodiadol, roedd perllannau yn rhan bwysig o ddietau pobl gyda ffrwythau fel afalau a gellyg yn cael eu casglu yn yr hydref a’u cadw ar gyfer y gaeaf.
Fodd bynnag, gydag arferion modern mae perllannau ffrwythau lleol wedi dirywio yng Nghymru a Lloegr, ac rydym ni wedi colli dros 56% o’n perllannau ers 1900.
Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn gyfle i chi ddarganfod perllan ffrwythau Tŷ Mawr; hon yw ail flwyddyn y berllan ond bydd yn ffynhonnell fwyd i bobl a bywyd gwyllt am flynyddoedd i ddod.
Mae digwyddiad yr Hydref dan y Goeden Afalau yn llawn dop o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddyn nhw:
- Mwynhewch ein llwybr bwyd gwyllt sy’n mynd â chi o gwmpas y parc, gyda gwobrau i’w hennill ar y diwedd
- Tritiwch eich hun i sudd afal ffres gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo
- Darganfyddwch sut mae cychod gwenyn yn gweithio gyda Smithy Farm a’u cychod gwenyn cludadwy
- Rhowch gynnig ar goginio dros dân a blasu crymbl ffrwythau tymhorol
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Masnachu am ddim ym Marchnad Wrecsam ar ddydd Llun yn ymestyn i 31 Rhagfyr!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.