Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiadau i gofio Trychineb Pwll Glo Gresffordd 1934
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Digwyddiadau i gofio Trychineb Pwll Glo Gresffordd 1934
Pobl a lleArall

Digwyddiadau i gofio Trychineb Pwll Glo Gresffordd 1934

Diweddarwyd diwethaf: Medi 9, 2024 12:15 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Gresford
RHANNU

Seremoni Flynyddol er cof am drasiedi waethaf Wrecsam, sef trychineb Pwll Glo Gresffordd.

Cynnwys
  • Arddangosfa Gelf:
  • Arddangosfa Hanesyddol
  • Gosodiad celf o golomennod:  
  • Cyfres addysg ieuenctid:
  • Gwylnos yng ngolau cannwyll:
  • Noson yng nghanolfan Tŷ Pawb:
  • Gwasanaethau Coffa:
  • Digwyddiadau tocynnau yn unig
  • Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr:
  • Cyngerdd cymunedol:

Eleni, fe fydd hi’n 90 mlynedd ers y drychineb a effeithiodd ar Wrecsam gyfan, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol.

Er mwyn nodi a chofio’r garreg filltir hon, mae yna sawl digwyddiad yn cael ei gynnal ac mae nifer ohonynt yn rhad ac am ddim.

Arddangosfa Gelf:

Dydd Llun 2 Medi – dydd Llun 30 Medi, 10.00am – 4.00pm (Ar gau ddyddiau Mercher a Sul), The Drawing Board, 17 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam​​

Arddangosfa o waith celf a grewyd yn arbennig i nodi Trychineb Gresffordd.

Mynediad am ddim

Arddangosfa Hanesyddol

Dydd Llun 16 – dydd Sadwrn 21 Medi 10.00am – 3.00pm, Prosiect Achub y Glowyr, 3 Ffordd Maesgwyn, Wrecsam

Dysgwch am brofiadau y rhai a effeithiwyd gan Drychineb Pwll Glo Gresffordd a’i waddol hyd heddiw.  Dewch draw i Brosiect Achub y Glowyr i fwynhau’r arddangosfa hanesyddol i nodi 90 mlynedd ers y drychineb.

Mynediad am ddim

Gosodiad celf o golomennod:  

16 Medi – 22 Medi, 10.00am – 4.00pm, Eglwys San Silyn, Wrecsam

Er mwyn nodi bywydau’r rhai a fu farw yn Nhrychineb Gresffordd, fe fydd yr Eglwys yn creu 266 o golomennod yn hedfan, a bydd enw pob glöwr arnynt a byddant yn rhaeadru i lawr yn ddramatig y tu mewn i dŵr yr Eglwys.

Mynediad am ddim

Cyfres addysg ieuenctid:

Dydd Iau 19 – dydd Sadwrn 22 Medi 10:00am – 4:00pm, Tŷ Pawb, Wrecsam

Mae Tîm Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam wedi gweithio gydag ysgolion cynradd lleol ar draws Wrecsam i gyflwyno gweithdy am Drychineb Pwll Glo Gresffordd sydd yn cefnogi ymgysylltu pobl ifanc gyda hanes lleol.  Dysgodd disgyblion am y drychineb, y bywydau a gollwyd a’r effaith ar gymuned ehangach Wrecsam. 

Maen nhw wedi llunio gwaith celf yn seiliedig ar y drychineb gan ddefnyddio deunyddiau megis siarcol a chopïau o bapurau newydd o’r cyfnod, a byddant yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yng nghanolfan Tŷ Pawb ar y dyddiadau uchod.

Mynediad am ddim

Gwylnos yng ngolau cannwyll:

21 Medi, 6.00pm, Prosiect Achub y Glowyr, 3 Ffordd Maesgwyn, Wrecsam

I nodi 90 mlynedd ers y drychineb, fe fydd Canolfan Glowyr Wrecsam yn goleuo 266 o ganhwyllau, pob un wedi’i siapio fel Lamp Davy, i gofio am bob bywyd a gollwyd.

Mae croeso i bawb fynychu, i fyfyrio a choffáu’r foment.  Am 2:08am ar 22 Medi fe fydd pob cannwyll yn cael ei diffodd.

Mynediad am ddim

Noson yng nghanolfan Tŷ Pawb:

Nos Sadwrn 21 Medi, 7.00pm, Tŷ Pawb, Wrecsam

Noson o gerddoriaeth fyw gyda bandiau o gymunedau glo Wrecsam a DENNIS, band Pres o Durham a fydd yn perfformio yn y neuadd fwyd ar gyfer y noson o gerddoriaeth a fydd yn addas i’r teulu yn dilyn gêm Wrecsam v Crawley.  

Gwasanaethau Coffa:

Dydd Sul 22 Medi am 11.00am, Cofeb Pwll Glo Gresffordd, Bluebell Lane, Pandy

Dydd Sul 22 Medi am 5.00pm, Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd

Mae Gwasanaeth Coffa Flynyddol wedi cael ei chynnal ar 22 Medi am 11am i gofio’r rhai a fu farw.  Fel y gwnaethpwyd i nodi 60, 70 ac 80 mlynedd ers y drychineb, bydd gwasanaeth yn cael ei chynnal yn Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd.  Mae croeso i bawb.

Digwyddiadau tocynnau yn unig

Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr:

21 a 22 Medi, 8.00pm, Eglwys San Silyn, Wrecsam

Mwynhewch opera gymunedol newydd sbon New Sinfonia gyda cherddoriaeth gan Jon Guy a geiriau gan Grahame Davies, yn seiliedig ar hanes Trychineb Pwll Glo Gresffordd gan dynnu sylw at ymdeimlad cryf Wrecsam o gymuned yn y gorffennol a’r presennol. 

Mae hefyd yn cynnwys gwaith newydd sbon gan Evrah Rose.  Fe fydd côr cymunedol NEW Voices a cherddorfa ieuenctid NEW Academi yn ymuno â nhw.

Tocynnau

Cyngerdd cymunedol:

Nos Wener, 20 Medi, 7.30pm – 9.30pm, Eglwys San Silyn, Wrecsam

Cyngerdd yn llawn sêr cerddorol lleol i godi arian i gefnogi gwaith ailwampio Canolfan Achub y Glowyr.  ‘Helpu i achub adeilad a adeiladwyd i achub bywydau.’

Perfformiadau gan:

  • Côr Meibion y Fron
  • Band Pres Lles Llai
  • Clywedog Steel Pans
  • Band Pres Dinas Wrecsam

Tocynnau

Mae’r digwyddiadau wedi cael eu trefnu gan New Sinfonia

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Mwy o batrolau yng nghanol dinas Wrecsam
Erthygl nesaf Autumn Yr hydref o dan y goeden afalau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English