Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yr hynaf sy’n hysbys i ddynol ryw!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Yr hynaf sy’n hysbys i ddynol ryw!
Busnes ac addysg

Yr hynaf sy’n hysbys i ddynol ryw!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 7, 2025 3:52 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
mead
RHANNU

Mae’r ddiod alcoholig hynaf sy’n hysbys i’r ddynol ryw wedi dod o hyd i gartref yn Wrecsam.

Mae Tony Cornish, gwneuthurwr medd profiadol, wedi bod yn creu medd ers dechrau’r 1990au ac wedi agor ei fedd-dy ar Lôn Rhosnesni.

Mae Stone Circle Mead Company yn arbenigo mewn cynhyrchu medd traddodiadol sy’n cyfuno mêl Cymreig, sbeisys, ffrwythau wedi’u chwilota, cnau, blodau a pherlysiau.

O’r eiddo yn Wrecsam, maen nhw’n cyflenwi rhai o leoliadau mawreddog y DU, gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin, y Senedd ac eiddo amrywiol yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chynnig teithiau blasu lle gallwch roi cynnig ar fedd, ei brynu a dysgu am y broses o’i gynhyrchu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae hwn yn fusnes unigryw yn Wrecsam ac yn enghraifft arall o fuddsoddiad yn y fwrdeistref sirol. Mae Tony wedi cael cefnogaeth gan dîm busnes a buddsoddi’r cyngor i’w helpu i wneud y gorau o gyfleoedd busnes ac rwy’n dymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Tony Cornish, perchennog Stone Circle Meads Company: “Roeddem yn falch iawn o gwrdd â’r Cynghorydd Nigel Williams yn y medd-dy yn ddiweddar. Treuliodd lawer o amser gyda ni i glywed am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’r cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer y dyfodol.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Prosiect Dull Adeiladu Modern cyntaf Cyngor Wrecsam gam yn nes at gael ei gwblhau Prosiect Dull Adeiladu Modern cyntaf Cyngor Wrecsam gam yn nes at gael ei gwblhau
Erthygl nesaf Llwybr Cwningen Pasg Wrecsam yn dod i Ganol y Ddinas y mis hwn! Llwybr Cwningen Pasg Wrecsam yn dod i Ganol y Ddinas y mis hwn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English