Mae Tŷ Pawb yn paratoi i lansio dwy arddangosfa gelf newydd gyffrous i bawb eu mwynhau!
Bydd arddangosfa ‘Wrexham is the Name’ yn dathlu Wrecsam ei hun ac mae wedi’i hysbrydoli gan storïau lleol ac wedi’i chreu gan artistiaid lleol.
Bydd ‘Nascent Inclinations’ yn gyfle i weld gwaith graddedigion celfyddyd gain dawnus o Brifysgolion ledled ein rhanbarth lleol.
Bydd y ddwy arddangosfa ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim a bydd pob math o waith gwreiddiol a dyfeisgar yn cael eu harddangos. Bydd rhywbeth ar gael i bawb ei fwynhau!
Byddwn hefyd yn cynnal agoriad arbennig i gyflwyno’r arddangosiadau newydd pan fyddant yn lansio ddydd Sadwrn 30 Mehefin.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Wrecsam yw’r Enw
Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd yr arddangosfa newydd hon yn ailgipio’r diwrnod hwnnw pan ddaeth miloedd o bobl i ganol tref Wrecsam i ddathlu agoriad Tŷ Pawb.
Ym mis Tachwedd y llynedd, dewisodd Tŷ Pawb chwech o artistiaid i greu swfenîr a ysbrydolwyd gan stori benodol o orffennol Wrecsam.
Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y swfeniriau gan y cyhoedd yr haf diwethaf o restr hir o 25 ohonynt, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.
Arweiniodd y prosiect at gasgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau argraffedig i sgarffiau pêl-droed.
Bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys chwech o swfeniriau ar thema Wrecsam ynghyd â gwrthrychau a delweddau eraill.
Bydd y gweithiau byrlymus, digrif a theimladwy yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag eitemau amrywiol o ddogfennaeth Dydd Llun Pawb yn ogystal â chyfweliadau â phob un o’r chwech artist.
Rydym yn parhau i gasglu storïau fel rhan o’r arddangosfa hon. Os oes gennych stori am Wrecsam yr hoffech ei rhannu, dewch draw a llenwch un o’n cardiau stori yn Oriel 2 yn Nhŷ Pawb!
Tueddiadau Eginol
Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle i ddathlu cyfoeth o ddoniau artistig newydd o’r ardal leol.
Bydd partneriaid gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Hope Lerpwl yn cael eu cynrychioli gan dri artist graddedig rhagorol.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith myfyrwyr o gyrsiau ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caer, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Bydd ‘Nascent Inclinations’ yn agor ar y cyd ag arddangosfa ‘Wrexham is the Name’ ddydd Sadwrn 30 Mehefin 2018 a bydd ymlaen tan 14 Gorffennaf yn Oriel Un.
Dewch draw i’r digwyddiad agoriadol.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau agoriadol yn rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 30 Mehefin i gyflwyno’r ddwy arddangosfa newydd.
Bydd nifer o’r artistiaid, myfyrwyr ac unigolion sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfeydd yn bresennol a bydd lluniaeth ar gael.
Croeso i bawb fynychu!
Arddangosfa y gall gogledd Cymru fod yn falch o
Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Mae’r broses o ddatblygu’r chwe swfenîr o’n harddangosfa Wrexham is the Name wedi dadorchuddio storïau rhyfedd a rhyfeddol.
“Mae’r chwech artist wedi gwneud gwaith ardderchog wrth ddehongli’n treftadaeth a chreu rhywbeth y bydd ymwelwyr Tŷ Pawb am ei feddiannu a’i drysori.
“Mae dod â’r doniau rhagorol o’r chwe sefydliad lleol ar gyfer ein harddangosfa Nascent Inclinations yn ddehongliad cwbl unigryw ond cywir o genhadaeth Tŷ Pawb.
“Nid yn unig y mae’n arddangos allbwn artistig anhygoel ein rhanbarth, mae hefyd yn tynnu sylw at leoliad daearyddol manteisiol Wrecsam. Mae hon yn arddangosfa y gall gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr fod yn falch ohoni.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Wrecsam i ymweld â’r arddangosfa hon yn Nhŷ Pawb. Mae’n enghraifft ardderchog o’n cymunedau lleol sy’n cynnwys eu hunain ym mywyd Tŷ Pawb.
“Mae’r swfeniriau a gynhyrchwyd wedi cael eu hysbrydoli gan nifer o atgofion o’r Wrecsam a fu, ac rwy’n siŵr y bydd y cyhoedd yn cael atgofion yr un mor annwyl amdanynt.”
- Bydd arddangosfa ‘Wrecsam Ydi’r enw’ i’w gweld yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 19 Awst yn Oriel 2.
- Bydd arddangosfa ‘Tueddiadau Eginol’ i’w gweld yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 15 Gorffennaf yn Oriel 1
- Bydd y digwyddiadau agoriadol ar gyfer y ddwy arddangosfa yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 30 Mehefin – 1pm ar gyfer Wrecsam Ydi’r Enw a 5pm ar gyfer Tueddiadau Eginol
- Mae’r holl arddangosfeydd a digwyddiadau agor yn rhad ac am ddim i fynychu
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB