Os nad ydych chi wedi profi digon o arswyd ddiwedd fis Hydref, beth am ddod draw i sesiwn Dysgu Amser Cinio mis Tachwedd yn Llyfrgell Wrecsam ar 6 Tachwedd, 1-2pm.
Ysbrydion, chwedlau ac ymchwil yw’r thema y mis hwn, a bydd yr awdur a’r cyfryngwr rhyngwladol a llwyddiannus, P.S. Roscoe yn ymweld â’r llyfrgell i drafod ei harchwiliadau ysbrydion diweddaraf.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bydd Roscoe yn trafod ei llyfr diweddaraf, sy’n seiliedig ar ysbrydion –Where Rivers Meet – mae’r llyfr wedi sbarduno Roscoe i ymgymryd â gwaith ymchwil i sawl math o chwedlau ac ysbrydion, yn ogystal â’r gwaith o baratoi ei llyfr ffeithiol – Thirteen Hauntings.
Bydd modd prynu copïau wedi’u harwyddo o’r llyfrau, a bydd yr awdures yn cynnig nifer cyfyngedig o sesiynau darllen cardiau ysbrydion am ddim i unrhyw un sy’n prynu llyfr.
Cynhelir y digwyddiad ar 6 Tachwedd, 1-2pm, ac mae’n rhad ac am ddim.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD