Dros y deuddeg mis diwethaf, mae disgyblion Ysgol Rhiwabon wedi trefnu, a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau codi arian er budd Hosbis Tŷ Gobaith, fel un o’u elusennau dewisedig.
Gan ddefnyddio eu creadigrwydd, a’u sgiliau entrepreneuraidd o’r Dystysgrif Sialens Sgiliau (rhan o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru), fe gynhaliodd myfyrwyr y Ffair Nadolig blynyddol, gan gynnwys anrhegion, addurniadau a danteithion i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr o’r gymuned leol.
Roedd uchafbwyntiau’n cynnwys cacennau cartref, gemau gwreiddiol a nwyddau wedi’u gweu, i gyd gan y myfyrwyr eu hunain.
Cymerodd myfyrwyr iau rhan yn yr ymdrechion codi arian hefyd, gan ddefnyddio eu talentau cerddorol i ddiddanu preswylwyr lleol mewn cyngerdd carolau, a gynhaliwyd mewn capel lleol.
Drwy gydol y flwyddyn bu diwrnodau dim iwnifform, gwerthiannau cacennau a digwyddiadau eraill i ychwanegu at nawdd yr elusen.
Ddydd Mawrth, 23 Hydref, daeth Cat Dowdeswell i’r ysgol i gyflwyno’r her i fyfyrwyr Blwyddyn 10 eleni, sef paratoi at y ffair sydd i’w chynnal ym mis Rhagfyr.
Ar ôl pwysleisio’r gwaith gwych a wnaed i deuluoedd lleol yn y gymuned, cyflwynwyd siec am £2000 i Cat gan Joe Richards a Laigha Parry, aelodau o’r stondinau mwyaf poblogaidd yn y ffair.
Dywedodd Miss S Bourhill, Cydlynydd Bagloriaeth Cymru, “Roeddwn wrth fy modd gweld bod ein myfyrwyr wedi gallu codi gymaint o arian i Tŷ Gobaith. Mae’n ymdrech wirioneddol o fawr, a dylid diolch i’r myfyrwyr am yr ymroddiad a ddangoswyd ar gyfer yr achos haeddiannol hwn”.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I