Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol yn canmol cynllun sy’n rhoi sgiliau cyflogadwyedd i fyfyrwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Canvass has begun
Mae’r canfasio wedi dechrau
Pobl a lle
wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol yn canmol cynllun sy’n rhoi sgiliau cyflogadwyedd i fyfyrwyr
Busnes ac addysg

Ysgol yn canmol cynllun sy’n rhoi sgiliau cyflogadwyedd i fyfyrwyr

Diweddarwyd diwethaf: 2021/07/06 at 1:12 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
School praises scheme that gives students employability skills
Michelle Symonds (chwith) a Miranda Cookson yn un o’r gweithdai Dosbarth Busnes.
RHANNU

Mae myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Clywedog yn Wrecsam wedi meithrin sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, diolch i fenter sy’n hwyluso perthynas waith rhwng ysgolion a busnesau.

Nod y cynllun Dosbarth Busnes, sy’n cael ei gynnal gan yr elusen Busnes yn y Gymuned, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru, yw cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, rhinweddau personol a chymwysterau sydd eu hangen i lwyddo mewn gwaith a bywyd.

Dywedodd Miranda Cookson, Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Clywedog: “Pan ofynnodd Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Cynnwys Busnes â Gyrfa Cymru i ni gymryd rhan yn y cynllun, fe wnaethom neidio am y cyfle.”

Mae Ysgol Clywedog wedi bod yn rhan o’r cynllun Dosbarth Busnes ers pedair blynedd ac mae hanes ei llwyddiant yn cael ei gofnodi mewn llyfryn sydd newydd ei gyhoeddi.

Parodd yr ysgol â Nyth, a reolir ar ran Llywodraeth Cymru gan Nwy Prydain. Michelle Symonds, Rheolwr Cynnwys y Gymuned yn Nyth oedd y cyswllt â’r ysgol drwy gydol y cynllun.

Roedd Nyth yn awyddus i helpu i wella sgiliau cyflogadwyedd mewn addysg, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg a rhoi hwb i hyder myfyrwyr.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Cymerodd myfyrwyr o flynyddoedd 9 i 11 ran mewn gweithdai oedd yn cynnwys popeth o ysgrifennu CV proffesiynol, technegau cyfweliad, prydlondeb a phresenoldeb i ddefnyddio ffonau symudol yn gyfrifol ac ethos gofal cwsmer.

Er gwaetha’r pandemig, mae sesiynau wedi parhau yn rhithiol, yn cynnwys seminarau addysg yn ymwneud â gwaith.

Eglura Mrs Cookson: “Gwyddom mor bwysig yw hi i fyfyrwyr fod yn barod am y byd gwaith ac rydym yn awyddus i wneud popeth allwn ni i’w helpu i baratoi at y cam nesaf hwn yn eu bywydau.

“Roedd y cynllun Dosbarth Busnes yn cyd-fynd â’n gwaith yn yr ysgol i helpu myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11 ddatblygu arferion da yn barod at eu bywydau gwaith, o fod yn ddibynadwy a phrydlon, i ddefnyddio ffonau symudol mewn ffordd gyfrifol. Er enghraifft, defnyddiodd Michelle Bolisi Ffonau Symudol Nwy Prydain i dynnu sylw at y pwysigrwydd y mae busnesau yn ei roi ar sicrhau bod eu gweithwyr yn deall y canlyniadau os byddant yn camddefnyddio eu ffonau symudol yn y gwaith.

“Yn dilyn y sesiwn, fe wnaethom sylwi ar newid mewn meddylfryd gan y myfyrwyr hŷn o ran eu defnydd o ffonau symudol, dim ond un canlyniad positif o’r rhaglen gyfan.

“Anogodd Michelle ein swyddogion i feddwl am eu rôl o safbwynt gwasanaeth cwsmeriaid, gan ystyried eu cyfraniad i’r ysgol a sut gallant gefnogi a mentora myfyrwyr iau. Fe wnaeth hyn helpu swyddogion i ddeall eu rôl yn llawnach, a sut mae ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr eraill.

“Mae’r cynllun wedi bod yn hynod o fuddiol i’n myfyrwyr i’w helpu i werthfawrogi beth sydd ei angen pan fyddant yn mynd i fyd gwaith, o hoffwn ddiolch i Lesley a Michelle am roi’r cyfle hanfodol hwn iddynt.”

Dywedodd Lesley Lloyd, Gyrfa Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Nyth am ei waith i gefnogi ysgolion a rhoi cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ryngweithio, sy’n llywio, ysbrydoli ac annog pobl ifanc o ran eu cyfleoedd gyrfa.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Ysgol Clywedog a Nyth ac atgyfnerthu’r bartneriaeth ymhellach drwy gynllun Partner Gwerthfawr Ysgol Gyrfa Cymru, sy’n cydnabod cyflogwyr sydd wedi cefnogi ysgolion unigol.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’r dyddiad cau ar gyfer Cynllun Preswylio Dinasyddion yr UE wedi mynd heibio, ond mae hi dal yn bosibl i gyflwyno ceisiadau hwyr Mae’r dyddiad cau ar gyfer Cynllun Preswylio Dinasyddion yr UE wedi mynd heibio, ond mae hi dal yn bosibl i gyflwyno ceisiadau hwyr
Erthygl nesaf Bronze Award Marc Ansawdd Gwobr Efydd i Weithwyr Ieuenctid

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canvass has begun
Mae’r canfasio wedi dechrau
Pobl a lle Medi 17, 2025
wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle Medi 16, 2025
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle Medi 16, 2025
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
funding
Busnes ac addysg

Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Awst 19, 2025
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English