Gan fod pencampwriaeth yr Ewros ar fin cychwyn, hoffem anfon ein dymuniadau gorau a’n cefnogaeth i garfan Cymru.

Ar y nosweithiau cyn gemau grŵp Cymru, byddwn yn goleuo Amgueddfa Wrecsam (safle Amgueddfa Bêl Droed Cymru yn y dyfodol a cheidwad Casgliad swyddogol Pêl Droed Cymru).

Bydd yr amgueddfa wedi ei goleuo ar nosweithiau:

11/06/21

15/06/21

19/06/21

Gemau grŵp Cymru:

12/06/21 Cymru V Swistir (2pm)

16/06/21 Twrci V Cymru (5pm)

20/06/21 Yr Eidal V Cymru (5pm)

 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Ar ran Cyngor Wrecsam a phobl Wrecsam, rwy’n anfon dymuniadau gorau’r fwrdeistref sirol i garfan Cymru. Pob lwc Cymru.

Dywedodd Ian Bancroft Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Mae hanes Wrecsam a thîm Cymru yn dyddio yn ôl i 1876 pan ffurfiwyd Cymdeithas Bêl Droed Cymru mewn cyfarfod yn y dref.

“Rydym yn diogelu dyfodol pêl droed yn Wrecsam gyda’r prosiect uchelgeisiol Porth, yn ogystal â bod yn safle Amgueddfa Bêl Droed Cymru yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae’n amser gyffroes i gefnogwyr pêl-droed ac i’r prosiect amgueddfa bêl-droed sydd am gael ei sefydlu yn Amgueddfa Wrecsam. Mi fydd yn ddiddorol i weld pa eitemau o’r gystadleuaeth y Euros fydd yn cael ei ychwanegu i’r casgliad. Dwi’n edrych ymlaed at gyfres Llwyddianus”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cyng. Ronnie Prince: “Gobeithio y bydd yn bencampwriaeth wych ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at wylio ein doniau cartref Neco Williams a Danny Ward yn chwarae.

“Mae Wrecsam yn dref amrywiol iawn a dwi’n siŵr y bydd gennym drigolion fydd yn cefnogi timau o bob cwr o Ewrop.”

⚽ POB LWC CYMRU⚽