Erthygl Gwadd- Cyflymu Cymru I Fusnesau

Gwneud Bwydydd a Diodydd yng Nghymru? Rhowch hwb i’ch marchnata digidol ac arbed amser gydag offer ar-lein.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Gweminarau am ddim i helpu cynhyrchwyr bwydydd a diodydd i fynd yn ddigidol (Gorffennaf-Awst 2021).

Os ydych yn gynhyrchydd bwydydd a diodydd o Gymru, gadewch i ni eich helpu chi i fagu eich hyder digidol.

Ymunwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau ar gyfer dau weminar newydd wedi’u teilwra ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.

Byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio marchnata digidol i gyrraedd cwsmeriaid a chael arian yn y banc, yn ogystal ag offer ar-lein i’ch helpu chi i reoli’ch busnes, eich stoc a’ch cwsmeriaid yn well – megis CRM a systemau archebu, cyfrifyddu a rhagor.

Dysgwch ragor a chofrestrwch eich busnes nawr

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF