Mae Tŷ Pawb yn edrych i fod yn lle wych i dreulio’ch amser y Nadolig hwn ac dyma un o’r rhesymau pam!

Mae’r artistiaid hynod dalentog o Helfa Gelf wedi ymuno â ni i ddarparu diwrnod arbennig iawn o grefftau, siopa ac adloniant ar gyfer pob oed.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Amser i gael y teimlad Nadolig!

Bydd neuadd farchnad Tŷ Pawb yn cael ei llenwi â stondinau sy’n gwerthu celf, crefft, cardiau, printiau a phob math o syniadau am anrhegion gwych gan artistiaid o’r gymuned Helfa Gelf.

Bydd hefyd weithgareddau chrefft gyda rhai o’r artistiaid.

Felly eleni, beth am brynu anrhegion lleol, unigryw a wneir yn arbennig i chi yng Ngogledd Cymru?

Bydd ein marchnadoedd a’n ardal fwyd ar agor fel arfer, fel y bydd Ogof Siôn Corn, a bydd gennym corau byw yn canu carolau o amgylch y goeden Nadolig!

Ymunwch â ni ar gyfer Ffair Grefftau Nadolig Helfa Gelf ddydd Sul 9 Rhagfyr, 11am-4pm.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni: typawb@wrexham.gov.uk – 01978 292144.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION