Mae cyllid o £175,000 wedi’i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r gwaith sydd ei angen i atgyweirio’r difrod helaeth a achoswyd i’r B5605 yn gynharach eleni yn ystod Storm Christoph.
Fel a nodwyd o’r blaen, rydym wedi parhau i weithio ar lawr gwlad a gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r adroddiadau technegol ac asesu a sefydlu costau i sicrhau bod y ffordd hon yn cael ei defnyddio eto cyn gynted ag sy’n bosibl.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd y cyllid yn cwmpasu ein costau rhagarweiniol, asesu a dylunio. Mae’r ymchwiliadau tir wedi’u cwblhau ac rydym yn aros am yr adroddiad dewisiadau.
Meddai’r Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n falch ein bod wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru o £175,000 ar gyfer cam nesaf y broses hon er mwyn datblygu achos busnes ar gyfer pob dewis sydd ar gael i atgyweirio’r ffordd.
“Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud gwaith geodechnegol a gobeithio y bydd hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr. Yna bydd angen i ni ystyried dewisiadau a dyluniad ar gyfer gwaith a byddwn yn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag sy’n bosibl.
“Rydym yn ymwybodol o’r anghyfleustra helaeth a’r effaith mae hyn yn ei chael ar gymunedau a busnesau lleol a gobeithio y byddwn mewn sefyllfa ar ddechrau’r flwyddyn newydd i symud ymlaen gyda dewisiadau ar gyfer gwaith atgyweirio. Gobeithio y caiff hyn ei ariannu’n llawn ar ôl storm Christoph.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL