City status

Mae crynodeb o’r gwaith annibynnol ar gyfer statws dinas yn amlinellu buddion allweddol statws dinas yn cael ei rannu gyda Chynghorwyr, partneriaid a phreswylwyr cyn y penderfyniad a gymerir gan y Cyngor yn Rhagfyr.

Mae’r datganiad yn nodi 10 budd allweddol i Wrecsam os daw yn ddinas, sy’n cynnwys:

  1. Mwy o synnwyr o falchder lleol.
  2. Llwyfan i hyrwyddo Wrecsam.
  3. Cyfleoedd i sefydliadau a busnesau lleol i godi eu proffil a denu buddsoddiad e.e. Y Brifysgol.
  4. Mwy o botensial i ddenu myfyrwyr, staff a buddsoddwyr medrus ac uchelgeisiol i Wrecsam e.e. Ysbyty.
  5. Cyfleoedd i’r gymuned, isadeiledd, a gwasanaethau i dyfu a datblygu yn fwy cynaliadwy.
  6. Canolbwynt ar gyfer ymgyrchoedd brandio a marchnata’r dyfodol.
  7. Mwy o ymwybyddiaeth o hanes, diwylliant ac iaith Wrecsam – denu mwy o ymwelwyr a chefnogi’r economi leol.
  8. Mwy o botensial i ddenu prosiectau mawr.
  9. Y gallu i gydweithio gyda dinasoedd Cymru a’r DU ar brosiectau a mentrau dinas penodol.
  10. Disgwyliadau cynyddol o ‘greu lle’ a fydd yn ei dro yn creu lleoedd mwy ffyniannus i fyw, gweithio a buddsoddi.

Cyhoeddwyd y datganiad cyn penderfyniad allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ar gyflwyno cais ai peidio am statws dinas ac roedd yn rhan o’r penderfyniad a gytunwyd yn y Cyngor i hyrwyddo’r buddion mor eang â phosib.

Gellir darllen y datganiad llawn ar wefan Cyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Ysgrifennwyd y datganiad gan yr arbenigwyr a benodwyd i edrych ar statws dinas fel rhan o waith ehangach siapio lle ac mae’n crynhoi’r buddion allweddol o’u hymchwil. Mae’r datganiad hwn yn darparu mewnwelediad gwerthfawr iawn a chrynodeb byr i ni gyd yn Wrecsam o’r buddion allweddol o ddod yn ddinas.”

Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud yn glir y byddai statws dinas yn rhan o ddarlun siapio lle mwy, ac yn un o nifer o ddulliau gweithredu a fydd o gymorth i gryfhau lles cymunedol, hunaniaeth a balchder yn Wrecsam.”