Ymgyrch #NoBlameNoShame yn cael ei lansio i annog pobl i siarad am dwyll
Safonau Masnach Cenedlaethol yn galw ar y Llywodraeth i wella cefnogaeth i ddioddefwyr.
Mae 73% o oedolion yn y DU – neu 40 miliwn o bobl – wedi’u targedu gan dwyll, a 35% – neu 19 miliwn – wedi colli arian oherwydd y trosedd hwn. Mae dioddefwyr achosion o dwyll ar gyfartaledd yn colli £1,730, ond mae llai nag un rhan o dair (32%) yn rhoi gwybod am y trosedd i’r awdurdodau, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y corff Safonau Masnach Cenedlaethol.
Er bod nifer uchel o achosion o dwyll a bod eu heffaith ariannol ac emosiynol ar ddioddefwyr yn enfawr, dim ond am gyfran fechan mae’r awdurdodau’n clywed. Dangosodd ymchwil Safonau Masnach Cenedlaethol mai’r teimladau mwyaf cyffredin gan bobl wrth ddeall eu bod wedi dioddef achos o dwyll oedd ‘dicter’ gyda nhw eu hunain (46%), teimlo’n ‘dwp’ (40%) ac ‘embaras’ (38%). Roedd llai nag un rhan o dair (32%) wedyn yn rhoi gwybod am y trosedd i awdurdod fel yr Heddlu, a 42% ddim yn dweud wrth eu banc. Nid oedd dwy ran o dair hyd yn oed yn dweud wrth berthynas neu ffrind eu bod wedi’u twyllo.
O’r rhai oedd yn dweud wrth yr awdurdodau, roedd hynny’n gwneud i 47% deimlo’n dwp neu deimlo embaras. Dim ond 34% oedd yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u deall yn iawn, a dim ond 38% oedd yn credu’n gryf bod eu hachos wedi’i gymryd o ddifrif.
Mae Safonau Masnach Cenedlaethol yn credu mai cywilydd dioddefwyr, a phoeni na fyddant yn cael eu cefnogi wrth ddweud, sy’n atal cymaint rhag rhoi gwybod am y troseddau hyn. Gan nad oes llawer yn rhoi gwybod, nid oes modd deall gwir raddfa ac effaith achosion o dwyll, nid yw gwasanaethau cefnogi dioddefwyr yn cael eu hariannu’n iawn, ac mae ymdeimlad o fai’n parhau i ddisgyn ar y dioddefwr – ac mae hyn oll i bob pwrpas yn galluogi troseddwyr i barhau i droseddu.
Gallai’r cylch dieflig o gywilydd, diffyg rhoi gwybod a diffyg adnoddau hefyd fod yn cyfrannu at ymdeimlad o ddinerthedd mewn cymdeithas – mae ffigwr anhygoel o un o bobl pump oedolyn (20%) yn credu eu bod yn debygol o ddioddef achos o dwyll yn y pum mlynedd nesaf. Dyna pam mae Safonau Masnach Cenedlaethol yn lansio ei ymgyrch #NoBlameNoShame sy’n annog pobl i sôn am achosion o dwyll i leihau’r stigma a gwneud i ddioddefwyr deimlo eu bod yn gallu siarad a rhoi gwybod.
Mae Safonau Masnach Cenedlaethol hefyd yn galw ar y Llywodraeth i roi diwedd ar y loteri cod post i ddioddefwyr twyll, drwy sicrhau bod cefnogaeth a help wedi’i deilwra ar gael i bob unigolyn, yn dibynnu ar eu hanghenion. Dylid gwella’r gefnogaeth ar draws y sbectrwm, o well addysg i atal pobl rhag cael eu twyllo, i well ymyraethau i atal dioddefwyr rhag cael eu targedu dro ar ôl tro.
Dywedodd yr Arglwydd Michael Bichard, Cadeirydd Safonau Masnach Cenedlaethol, “Mae twyll yn fwrn ar bob rhan o gymdeithas ac mae’n bryd i gymdeithas frwydro yn ei erbyn. Os gallwn ni gael gwared â’r cywilydd sy’n gysylltiedig â bod yn ddioddefwr twyll, drwy drafod y mater yn agored a thrafod ein profiadau fel teuluoedd a chymunedau, gallwn wanhau pŵer y troseddwyr i wneud niwed. Mae addysg yn allweddol i’w atal. Ynghyd â hyn, rydw i’n gofyn i’r Llywodraeth gamu ymlaen a darparu gwell gofal i ddioddefwyr, ac ein helpu ni i dorri’r cylch o gywilydd, diffyg rhoi gwybod a diffyg adnoddau.”
Yn ddiweddar, fe gomisiynodd Tîm Twyll Safonau Masnach Cenedlaethol adroddiad academaidd i ystyried rhai o’r technegau mae troseddwyr yn eu defnyddio gyda dioddefwyr twyll a cham-drin ariannol. Mae’r troseddwyr hyn yn defnyddio technegau gorfodi a rheoli, yn debyg i’r rhai mae troseddwyr cam-drin domestig yn eu defnyddio, yn cynnwys gwahanu’n gymdeithasol, gwneud i rywun amau ei bwyll ei hun a ph’ledu rhywun â chariad. Mae troseddwyr yn y ddau fath o drosedd yn dylanwadu’n ddidrugaredd ar eu dioddefwyr i wneud penderfyniadau na fyddent fel arfer byth yn eu gwneud, ac yn eu gadael yn teimlo cywilydd, heb allu dweud wrth unrhyw un beth sy’n digwydd. Mae’r cywilydd hwn yn aml yn waeth oherwydd ymateb pobl eraill, gan gynnwys beio a chodi cywilydd ar ddioddefwyr.
Dywedodd Dr Elisabeth Carter, cyd-awdur yr adroddiad Coercion and Control in Financial Abusea Darlithydd Cyswllt troseddeg ac ieitheg fforensig ym Mhrifysgol Kingston, “Mae troseddwyr twyll yn defnyddio iaith sydd i wedi’i bwriadu i gamddefnyddio pŵer ac ystumio’r gwir fel bod eu ceisiadau’n gwneud synnwyr, heb godi pryderon. Un elfen yn unig yw effaith ariannol y trosedd hwn – mae’r effaith seicolegol o gael eich twyllo’n gallu bod yn enfawr gan bara am gyfnod hir. Mae angen i ni gydnabod nad dioddefwyr twyll sydd ar fai, a chyfrif y trosedd hwn fel math o gam-drin, sef beth ydyw.”
Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod troseddwyr gan amlaf yn ceisio twyllo pobl dros y ffôn, yna e-bost, neges destun neu Whatsapp ac yna’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ffôn llinell dir yn benodol yn parhau i fod yn ffordd allweddol i gael gafael ar rai a allai fod yn fregus – mae data ar wahân yn dangos bod aelwydydd oedd â system blocio galwadau wedi cael cyfartaledd o 120 o alwadau twyll a niwsans yr un y llynedd yn unig, ar bynciau ‘yswiriant’ yn bennaf, yna ‘gwelliannau i’r cartref’ ac yna ‘cymorth â thechnoleg’.
Dywedodd Louise Baxter, arweinydd Tîm Twyll Safonau Masnach Cenedlaethol, “Mae’r nifer o achosion o dwyll yn uchel, ond os nad yw dioddefwyr yn rhoi gwybod amdanynt gan fod ganddynt gywilydd neu eu bod yn credu y byddant yn cael eu beio, eu cywilyddio a ddim yn cael cefnogaeth, mae’n amhosib’ i ni ddeall gwir faint y broblem. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy anodd dal y troseddwyr, ond yn fwy pwysig, nid yw’n caniatáu i ni helpu a chefnogi’r dioddefwyr. Mae’n rhaid i ni roi’r troseddwyr sy’n twyllo pobl dan y lach.
“Rydyn ni’n gwybod bod llawer sy’n rhoi gwybod am y troseddau hyn yn teimlo nad oes ganddynt gefnogaeth, gan nad oes buddsoddiad yn y gwasanaethau maent eu hangen. Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i wella’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a’u teuluoedd – ond mae lle i fwy bob tro.”
Mae ymgyrch #NoBlameNoShame yn cael ei lansio gyda chyngor a chefnogaeth ymarferol ar sut y dylem ni siarad am dwyll, yn ogystal â fideo a mwy o wybodaeth sydd ar gael ar www.friendsagainstscams.org.uk/noblamenoshame. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei rhoi i’r Heddlu, y sector gofal cymdeithasol i oedolion a thimau safonau masnach lleol a banciau ar sut i gefnogi dioddefwyr twyll a throsedd ariannol yn well. Dyma gychwyn gwaith i sicrhau bod dioddefwyr twyll a cham-drin ariannol yn cael gwasanaethau cefnogi dioddefwyr cyfannol a’u bod yn cael eu trin yn yr un modd â dioddefwyr troseddau eraill.