Bydd oddeutu 2.1 miliwn o gwsmeriaid credydau treth yn dechrau cael eu pecynnau adnewyddu blynyddol yr wythnos hon oddi wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Bydd y pecynnau’n cael eu hanfon rhwng 25 Ebrill a 27 Mai, ac mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf i wirio bod eu manylion yn gywir ac i roi diweddariad i CThEM os bu newid yn eu hamgylchiadau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol targededig iddynt, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn colli’r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo.
Mae dau fath o becynnau adnewyddu:
- os oes llinell goch ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘atebwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth
- os oes llinell ddu ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘gwiriwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid wirio bod eu manylion yn gywir. Os ydynt yn gywir, nid oes angen i gwsmeriaid wneud dim a bydd eu credydau treth yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig
Bydd angen i oddeutu 630,000 o gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.
Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yn rhad am ddim drwy GOV.UK neu ap CThEM.
Mae adnewyddu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu hadnewyddiad, i gael sicrwydd ei fod yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM. Gall cwsmeriaid sy’n defnyddio dewis ap CThEM ar eu ffôn clyfar wneud y canlynol:
- adnewyddu eu credydau treth
- diweddaru newidiadau i’w hawliad
- gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
- cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn
Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEM i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.
Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEM am y newid. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:
- trefniadau byw
- gofal plant
- oriau gwaith, neu
- incwm (cynnydd neu ostyngiad)
Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Gallai llawer o gwsmeriaid sy’n symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol fod ar eu hennill yn ariannol a gallant ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio hynny.
Os bydd cwsmeriaid yn dewis gwneud cais yn gynt, mae’n bwysig cael cyngor annibynnol ymlaen llaw gan na fyddant yn gallu mynd yn ôl i gredydau treth nac unrhyw fudd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH