Beth am gofrestru ar gyfer Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru?
Bob mis drwy’r flwyddyn, bydd pedwar o’r tri deg chwech llyfr sydd wedi’u dewis yn arbennig, dau yn Saesneg a dau yn Gymraeg, yn cael eu datgelu i greu calendr darllen cyfareddol i’ch llawenhau.
Mae llyfrgellwyr o bob rhan o Ogledd Cymru wedi bod yn dewis llyfrau sy’n eich annog i ddarllen rhywbeth gwahanol. Beth bynnag yw eich chwaeth ddarllen, mae rhywbeth yma i ddifyrru, annog a chyfoethogi eich profiad darllen – antur go iawn yng nghysur eich cadair freichiau!
Hefyd, mae darllenwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau a’u barn o’r llyfrau ar-lein drwy Facebook, Twitter ac Instagram neu ar y cardiau post trawiadol sydd ar gael o lyfrgelloedd.
Mae’r her ddarllen wedi’i chreu gan Estyn Allan y Gogledd, partneriaeth o lyfrgelloedd yng Ngogledd Cymru sydd â’r nod o gynnig cyfleoedd newydd i ddarllenwyr gymryd rhan ymarferol yn eu datblygiad a’u lles eu hunain a rhannu profiadau darllen gydag eraill; i ddatblygu prosiectau llawn dychymyg sy’n rhoi mwy o fwynhad i bobl o ddarllen a chyflwyno’r pleser o ddarllen i gynulleidfaoedd newydd.
Dywedodd Debbie Williams, o bartneriaeth llyfrgelloedd Estyn Allan y Gogledd: “Y syniad yw bod ‘Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru’ yn gweithredu bron fel grŵp darllen heb fod angen mynd iddo. Gall pobl yn aml fynd i rigol wrth ddarllen, wrth ddarllen gwaith yr un awduron neu’r un genre ac rydyn ni’n annog pobl i’w herio eu hunain a rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn 2020. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yn datgelu byd ehangach llyfrau iddyn nhw yn gyffredinol a sut y gall darllen gael effaith gadarnhaol ar eu lles; rhywbeth y byddem ni yng yn falch iawn o’u helpu i’w ddarganfod. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dod yn offeryn mwy defnyddiol o hyd i ddarllenwyr modern drafod llyfrau, ac rydyn ni eisiau annog pobl i drafod darllen, llyfrau a’u manteision ble bynnag y gallwn.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook, Twitter ac Instagram Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru / Fantasic! Happier Together with North Wales Libraries neu alw heibio i’ch llyfrgell leol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam 01978 292090
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN