Dydd Mawrth gofynnir i’r Bwrdd Gweithredol gytuno ar gyllid o £22,000 i Fanc Bwyd Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Grŵp Costau Byw, “Cafodd y grŵp gyflwyniad gan Fanc Bwyd Wrecsam yn ddiweddar oedd yn ddiddorol iawn ac yn dangos faint o gefnogaeth maent yn roi i bobl yn Wrecsam sy’n ei chael hi’n anodd gyda chostau byw.
“Maent yn gwneud llawer mwy na darparu cyflenwadau bwyd i bobl mewn angen a bydd y cyllid hwn yn eu helpu i ymestyn eu darpariaeth.
“Hoffwn ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr yn y Banc Bwyd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.”
Dywedodd rheolwr Banc Bwyd Wrecsam, Sally Ellinson “Rydym yn hynod o ddiolchgar i gyngor Wrecsam am gynnig £22,000 i ni a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu parseli bwyd brys a chymorth i leddfu effaith yr ‘Argyfwng Costau Byw’ ar drigolion a chymunedau Wrecsam.
“Ein gweledigaeth yw ar gyfer Wrecsam ble mae gan bawb ddigon o arian i fforddio’r pethau hanfodol mewn bywyd a phan na fydd bellach angen Banc Bwyd Wrecsam, ond nes y daw’r diwrnod hwnnw rydym wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’n sefydliadau partner a darparu bwyd ac eitemau hanfodol eraill i bobl leol sydd mewn angen.”
Sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio
Mae gweithwyr proffesiynol gofal fel ymwelwyr iechyd, swyddogion prawf, gweithwyr cymdeithasol a chanolfannau cyngor yn nodi pobl mewn argyfwng ac yn rhoi cod taleb banc bwyd iddynt. Mae hyn yn golygu y gallant dderbyn parsel banc bwyd yn cynnwys bwyd maethlon cytbwys, nad ydynt yn ddarfodus. Maent yn gweithio gydag oddeutu 180 asiant atgyfeirio yn Wrecsam.
Mae cleientiaid sy’n mynychu’r banc bwyd neu sy’n derbyn gwasanaeth danfon i’r cartref os ydynt yn cael anhawster cyrraedd un, hefyd yn derbyn cymorth a chyngor am ystod o wasanaethau cymorth y gallant gael mynediad iddynt am gymorth pellach.
Mwy na Bwyd
Mae gwirfoddolwyr yn y Banc Bwyd yn gallu llenwi ffurflenni a gwneud atgyfeiriadau uniongyrchol i bethau fel:
- Talebau Sefydliad Banc Bwyd – i’w defnyddio ar gyfer mesuryddion nwy/trydan rhagdaliad.
- Deunyddiau Babis – yn darparu basged Moses llawn o ddillad/blancedi/eitemau i fabi newydd.
- Banc Babi – darparu eitemau mwy fel pram, crud, gatiau grisiau.
- Cymunedau am Waith – darparu cymorth gyda sgiliau sylfaenol, ysgrifennu CV, ceisiadau am swydd, sgiliau cyfrifiadur, techneg cyfweliad, cymhelliant a hyder.
- Rhaglen Adnabod Byddin yr Iachawdwriaeth – rhoi cefnogaeth i’r sawl sy’n gaeth (pedwar sesiwn).
- Talebau Dechrau Iach
Mae’r cyllid yn rhan o gronfa £166,000 a nodwyd i’w ddefnyddio ar gyfer darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i drigolion.
Mae’r Grŵp Costau Byw yn ystyriol o’r angen i weithredu ac felly yn cynnig nifer o ymyraethau uniongyrchol. Argymhellion gan y Gweithgor Aelodau Trawsbleidiol i’r Bwrdd Gweithredol yw:
£22,000 – Banc Bwyd Wrecsam – cefnogi datblygu darpariaeth
- £44,000 – Menter Mannau Cynnes. Y Cyngor i sefydlu cynllun grant ar gyfer sefydliadau lleol i wneud cais am arian i ddarparu eu cynnig ‘Mannau Cynnes’, gall hyn gynnwys darparu prydau. Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu a’u cymeradwyo neu eu gwrthod gan Grŵp Swyddogion CBSW ac adroddir i’r Gweithgor Argyfwng Costau Byw Aelodau Trawsbleidiol.
- £60,000 – Canolfan Cyngor ar Bopeth: i ymestyn gwasanaethau yn benodol i ddarparu cyngor/cefnogaeth ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw. Byddai hyn yn ddarostyngedig i Gytundeb Lefel Gwasanaeth 3 blynedd am £20k y flwyddyn, i’w adolygu’n flynyddol.
- £5,000 – I ddarparu nifer o Ddigwyddiadau Amlasiantaeth Cyngor a Gwybodaeth Costau Byw’ yn y gymuned’ a darparu deunydd a gwybodaeth wedi’i argraffu.
- £10,000 – I’w weinyddu gan yr adran dai i archwilio mentrau posibl i alluogi pobl i gael mynediad i adnoddau cymunedol lleol i helpu eu hiechyd a’u lles gyda ffocws ar y mwyaf diamddiffyn.
Bydd y £25,000 arall mewn ymateb i unrhyw flaenoriaethau a chyfleoedd pellach wrth iddynt godi.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI