Rydym wedi derbyn £285,000 ar gyfer pedwar cynllun atgyweirio llifogydd yn dilyn difrod a achoswyd gan y stormydd y gaeaf diwethaf.
Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais llwyddiannus a gyflwynwyd yn gynharach y flwyddyn hon.
Y 4 cynllun llwyddiannus yw:
- Gwenfro, Parc Caia, draenio dŵr wyneb, uwchraddio pibell a dylunio gollyngfa
- Maes Meredydd, Pontfadog, amnewid ac uwchraddio cwlfert
- Lôn Darland a Lôn Garland, Yr Orsedd, draenio dŵr, pibell a gollyngfa
- Ffordd Hampden, trefniadau uwchraddio sgrin brigau
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Croesawodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y cyhoeddiad a dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gydnabod pwysigrwydd y cynigion a wnaed trwy ddyfarnu 100% o’r cyllid ar gyfer pedwar cynllun mawr yn Wrecsam. Bydd hyn yn ein caniatáu i gywiro rhai materion hirdymor sy’n parhau yn y fwrdeistref sirol.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ymateb i’r problemau llifogydd ar draws y sir a mynd i’r afael â phroblemau a waethygir yn aml yn sgil newid hinsawdd.”
Meddai Cynghorydd Yr Orsedd, y Cynghorydd Hugh Jones: “Dwi’n croesawu’r newyddion gan fy mod wedi bod yn gweithio am fwy na wyth mlynedd am ateb i’r broblem sydd wedi difetha bywydau preswylwyr Darland a Lôn Gamford. Dwi’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn dechrau yn yr haf.
Meddai Cynghorydd Dyffryn Ceiriog, Trevor Bates: “Dwi wedi gwirioni clywed fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu’r gwelliannau i’r Geuffos ym Mhontfadog, un o ddim ond pedwar o gynlluniau wedi’u cymeradwyo ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Dydi preswylwyr Maes Meredydd ac Afon Wen heb gysgu’n iawn ers 20 Ionawr yn ofni y byddan nhw’n deffro gyda dŵr yn rhedeg trwy eu drysau cefn unwaith eto. Dwi’n gobeithio y gellir gwneud y gwaith yn gyflym a chyn i ni gael mwy o gawodydd trymion eto”.
O fewn modfeddi o dorri’r amddiffynfeydd llifogydd
Achosodd Storm Christoph y problemau gwaethaf ym mis Ionawr a dylid cydnabod ei effeithiau yn wirioneddol.
Roedd lefelau’r afon Ddyfrdwy yr uchaf ar gofnod a daeth o fewn modfeddi i dorri’r amddiffynfeydd llifogydd ym mhentref Bangor-Is-y-Coed ac mewn nifer o leoliadau ar y Ddyfrdwy ac afonydd eraill; a thorrwyd a gorlifwyd glannau.
Roedd lefelau glawiad a dŵr ffo o dir cyfagos mor sylweddol, hyd yn oed lle roedd systemau draenio ffurfiol yn bodoli, ac roedd y rhain dan bwysau gormodol yn sydyn.
Mae ein timoedd yn parhau i weithio ar y systemau draenio a dros y deuddeg mis diwethaf, mae gwaith wedi mynd rhagddo ar ein rhaglen lanhau rhagweithiol ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i lanhau systemau yn llawn yn flynyddol.
Mae hefyd nifer o brosiectau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Un o’r rhai pwysicaf o’r rhain yw yr un achoswyd gan dirlithiad ar y B5605 yn Newbridge.
Mae’r gwaith atgyweirio yn gymhleth ac mae datrysiadau yn anodd ac yn gostus, ond rydym yn obeithiol o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio’r rhan bwysig hon o’n hisadeiledd.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF