Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arolwg Heddlu Gogledd Cymru Llais yn erbyn Trais
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Arolwg Heddlu Gogledd Cymru Llais yn erbyn Trais
ArallPobl a lle

Arolwg Heddlu Gogledd Cymru Llais yn erbyn Trais

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 9, 2021 10:38 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Arolwg Heddlu Gogledd Cymru Llais yn erbyn Trais
RHANNU

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio arolwg i wrando ar brofiadau a barn merched ynglŷn â diogelwch yng Ngogledd Cymru.

Nod yr Arolwg Llais yn erbyn Trais yw ceisio deall pryderon merched ar draws y rhanbarth a dyna pam maen nhw’n gofyn i gynifer â phosibl o ferched gymryd rhan. Gellir defnyddio’r ymatebion wedyn i fynd i’r afael â materion a thargedu meysydd penodol er mwyn i ferched deimlo’n fwy diogel yn y cartref, yn eu cymunedau, yn y gwaith a phan fyddan nhw o gwmpas y lle.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Nid yw teimlo mewn perygl yn rhywbeth unigryw i ferched, wrth gwrs, ond mae trais rhywiol a throseddau aflonyddu yn aml iawn yn cael eu cyflawni gan ddynion, a merched yw’r dioddefwyr. Ond, hoffem sicrhau dioddefwyr sy’n ddynion ein bod yn ystyried pob adroddiad am drosedd o ddifri, beth bynnag fo’ch rhyw neu nodweddion eraill, ac rydym yn eich annog i gysylltu â ni os ydych yn ddioddefwr.

Mae’r arolwg yn gwbl ddienw ac ar gael tan2il Gorffennaf. Gellir ei gwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Devonport: “Yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Everard yn gynharach eleni, rydym wedi gweld merched ar draws y DU yn dod ymlaen gyda’i straeon o deimlo mewn peryg neu o gael ei haflonyddu. Mae’r ffaith bod hon wedi dod mor gyffredin yn ein cymdeithas yn annerbyniol a rhaid ei herio.

“Rydym wedi creu’r arolwg hwn i wrando ar yr hyn y mae merched a menywod yn ein cymuned yn dweud am eu profiadau personol a pha mor ddiogel maent yn teimlo yn byw yng ngogledd Cymru heddiw. Rydym yn annog cymaint o ferched â phosib i gwblhau’r arolwg fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn gan wneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU.

“Rydym am sicrhau bod pawb sydd angen help yn gwybod ble i’w gael ac yn teimlo’n hyderus y byddwn yn gwrando ac y byddant yn cael eu trin o ddifri.”

Bydd y wybodaeth a gesglir o’r arolwg yn arwain at ffurfio’r ymgyrch “Llais yn Erbyn Trais”. Bydd yn rhoi golwg o’r hyn sydd angen ei daclo a ffurfio ein cynlluniau yn y dyfodol ac yn fodd i wella diogelwch yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Jane Ruthe, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASCNW): “Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r arolwg hwn sy’n rhoi cyfle i bobl Gogledd Cymru fynegi eu pryderon ac i’w lleisiau gael eu clywed. Maent yn cael cyfle i siarad am y pethau sy’n eu gwneud i deimlo’n anniogel o ran eu hunain a’u plant. Gall ac mae trais rhywiol yn digwydd i unrhyw un o unrhyw rywedd. Ond y gwirionedd ydy ei fod yn drosedd sy’n effeithio merched yn bennaf. Mae RASASCNW yn gweithio yn holl siroedd Gogledd Cymru. Mae’n darparu cymorth a chwnsela i unrhyw un o unrhyw rywedd ym mhob sir, boed bod y trais rhywiol wedi digwydd yn ddiweddar neu amser maith yn ôl, yn ystod plentyndod neu pan yn oedolyn. Mae gennym wasanaeth plant a phobl ifanc arbenigol hefyd.”

Os ydych wedi dioddef trosedd, riportiwch o i ni drwy ein sgwrs fyw neu drwy alw 101 neu 999 mewn argyfwng.  Mae gennym wasanaethau a all eich cefnogi os ydych wedi riportio’r drosedd i’r heddlu neu beidio. Ceir mwy o wybodaeth.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Flood £285,000 wedi’i ddyfarnu ar gyfer atgyweiriadau llifogydd mawr yn Wrecsam
Erthygl nesaf Gwneud Bwydydd a Diodydd yng Nghymru? Gwneud Bwydydd a Diodydd yng Nghymru?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English