Hysbysir defnyddwyr ffordd y bydd amhariad ar yr A483 Cyffordd 1 yn Rhiwabon yn mynd tua’r gogledd wrth gynnal gwaith am hyd at 4 diwrnod, o ddydd Llun, 16 Rhagfyr rhwng 9.30am a 3.30pm.
Mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gwneud gwaith cynnal a chadw coed hanfodol.
Bydd y slipffordd i gyfeiriad y gogledd ger cyffordd 1 ar gau i draffig a bydd gwyriadau mewn lle.
Bydd traffig sy’n teithio i gyfeiriad y gogledd o’r Waun ar yr A483 yn parhau i deithio mewn un lôn am bellter byr.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]