Mae Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am luniau a memorabilia hen ysgolion i ffurfio rhan o arddangosfa newydd sbon sydd ar y gweill eleni.
Bydd yr arddangosfa ‘Dychwelyd i’r Ysgol’ yn edrych ar sut mae ysgolion wedi newid yn Wrecsam dros y blynyddoedd.
Os aethoch chi i unrhyw un o’r ysgolion ym mwrdeistref sir Wrecsam yna maen nhw eisiau clywed gennych chi!
Byddwch yn gallu dod â’ch eitemau i un o’r diwrnodau agored arbennig sy’n cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad ledled y fwrdeistref wledig dros yr wythnosau nesaf.
Felly ewch ati i syfrdanu trwy’r droriau, bocsys, atigau ac isloriau, cael giggle cyflym a moment o hiraeth wrth i chi syllu ar eich hunan, yna dewch i rannu popeth gyda ni
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ble i ymgynnull
Gallwch ddod â’ch lluniau a’ch pethau cofiadwy i unrhyw un o’r digwyddiadau canlynol:
Llyfrgell y Waun – Dydd Mawrth, Ionawr 23, 2.30pm-4.30pm
Canolfan Goffa Brynteg – Dydd Sadwrn, Chwefror 3, 10.30am-12.30pm
Llyfrgell Ruabon – Dydd Iau, Chwefror 6, 2.30pm-4.30pm
Llyfrgell Owrtyn (Cocoa Rooms) – Dydd Sadwrn, Chwefror 8, 10.30am-12.30pm
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch ag Amgueddfa Wrecsam os oes gennych unrhyw ymholiadau – 01978 297460 neu museumscollections@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN