Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma’ch canllaw llawn i Hanner Tymor yn Tŷ Pawb …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dyma’ch canllaw llawn i Hanner Tymor yn Tŷ Pawb …
Pobl a lle

Dyma’ch canllaw llawn i Hanner Tymor yn Tŷ Pawb …

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/13 at 11:37 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Dyma'ch canllaw llawn i Hanner Tymor yn Tŷ Pawb ...
RHANNU

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau sy’n addas i deuluoedd i’w gwneud yn ystod yr hanner tymor hwn?

Cynnwys
Dydd Sadwrn 15Dydd Llun 17Dydd Mawrth 18Dydd Mercher 19Dydd Iau 20Dydd Gwener 21Dydd Sadwrn 22Beth am ddydd Sul?Cyfleusterau NewidParcioBwyd a DiodI Archebu

Os felly, Tŷ Pawb fydd y lle i fod gyda gweithgareddau i blant o bob oed yn digwydd trwy gydol yr wythnos, yn ogystal ag nid un clwb dau ond dau bob dydd Sadwrn!

Darllenwch ymlaen am y canllaw llawn….

Cofiwch, gallwch archebu lle ar unrhyw un o’r gweithgareddau hyn trwy e-bostio: teampawb@wrexham.gov.uk neu gallwch archebu ar-lein trwy eventbrite

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Dydd Sadwrn 15

Clwb Celf i’r Teulu
10am-12pm
£2.50 y plentyn
Sesiwn dan arweiniad artist i blant a’u teuluoedd archwilio ein horielau a datblygu sgiliau dychymyg a chreu. Caiff oedolion fynediad am ddim, mae’n rhaid i blant fod ag oedolyn gyda nhw.

Clwb Celf i Ieuenctid
10am-12pm
£3 fesul person ifanc
Sesiwn dan arweiniad artist i blant a’u teuluoedd archwilio ein horielau a datblygu sgiliau dychymyg a chreu. Caiff oedolion fynediad am ddim, mae’n rhaid i blant fod ag oedolyn gyda nhw. Archebwch yma.

Dydd Llun 17

Caffi Papur
10am–12pm
AM DDIM
Gweithgaredd celf ar thema bwyd a chewch fynd â’ch gwaith adref. Ar gyfer plant 3+ oed, mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Creu Llyfr Comics
2pm–5pm
£3
Dewch i ysgrifennu, darlunio ac argraffu eich llyfr comics eich hun i fynd adref gyda chi. Addas ar gyfer 7-14 oed, mae croeso i oedolion aros gyda phlant iau, ond nid oes rhaid. Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

Dydd Mawrth 18

Gardd Bapur 10am-12pm
AM DDIM
Gweithgaredd celf ar thema natur a chewch fynd â’ch gwaith adref.
Ar gyfer plant 3+ oed, mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Picnic y Tedi Bêrs
2pm–4pm
£3
Straeon gan y Storïwr, a chrefftau tedi bêr a helfa drysor. Dewch â’ch picnic eich hun! Ar gyfer plant 3+ oed, caiff oedolion fynediad am ddim, mae’n rhaid i blant fod ag oedolyn gyda nhw. Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

Dydd Mercher 19

Sesiwn Sgriblo
10am-12pm
AM DDIM
Sesiwn galw heibio i weithdy tynnu llun ar gyfer plant o bob oedran i arbrofi gyda gwahanol offer a thechnegau celf. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Creu Fideo Cerddoriaeth
2pm-5pm
£5 fesul person ifanc
Dysgu technegau ffilmio a golygu gyda 73 Degree Community. Addas ar gyfer 7-14 oed. Mae croeso i oedolion aros gyda phlant iau, ond nid oes rhaid.

Dydd Iau 20

Dillad Papur 10am–12pm
AM DDIM
Gweithgaredd celf ar thema ffasiwn a chewch fynd â’ch gwaith adref. I blant 3 oed neu hŷn.

Y Byd mewn Bocs
2pm-4pm
£3 fesul person ifanc
Creu celf bocs matsys bychain! Dewch i greu eich byd bach eich hun mewn bocs matsys, gadewch i’ch dychymyg redeg, darperir holl ddeunyddiau – sesiwn dan arweiniad artist gyda Sophia Leadill. Addas ar gyfer 9-14 oed, mae croeso i oedolion aros gyda phlant iau, ond nid oes rhaid. Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

Dydd Gwener 21

Paentio Eco a Chrefftau wedi’u Hailgylchu
1.30pm-4.00pm
AM DDIM 
Mae hwn yn weithgaredd cymunedol ac mae croeso i bob oed a gallu. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Disgo Uncorn!
6pm – 8pm
£3 y plentyn 
Galw pob uncorn, draig, tylwyth teg a marchog!
Mae Tŷ Pawb yn cynnal noson gwisg ffansi hudolus i blant 3-13 oed gyda chrefftau, gemau, dawnsio a gwobrau. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch yma.

Dydd Sadwrn 22

Clwb Celf Teuluol
10am -12pm
£2.50 y plentyn

Clwb Celf i Ieuenctid
2pm-4pm
£3 fesul person ifanc

Beth am ddydd Sul?

Caiff gweithgareddau i deuluoedd ar ddydd Sul eu trefnu gan fasnachwyr Tŷ Pawb. Gwelwch y dudalen Facebook am y manylion: https://www.facebook.com/sundayclubtypawb/

Cyfleusterau Newid

Mae gennym ni toiled hygyrch Lleoedd Newid gyda bwrdd newid, gwely newid, teclyn codi a chawod.

Parcio

Mae parcio ar gael yn ein maes parcio aml-lawr am £2.50 trwy’r dydd.

Bwyd a Diod

Mae ein masnachwyr bwyd yn cynnig ystod o fwydydd o bob cwr o’r bydgan gynnwys prydau, diodydd a phwdinau. (A choffi i chi hefyd wrth gwrs!).

I Archebu

I archebu lle, ffoniwch ni ar: 01978 292 144, neu e-bostiwch ni:
teampawb@wrexham.gov.uk
Tŷ Pawb, Stryd Y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

TAGGED: wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol coun Eich cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gynllun y cyngor
Erthygl nesaf Business Support Admin roles jobs Swyddi gweinyddol, cyfle i drydanwr a gwaith ym myd addysg…mwy o’n swyddi diweddaraf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle

‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon

Medi 4, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
DigwyddiadauPobl a lle

Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!

Awst 26, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English