Bob blwyddyn bydd Maer Wrecsam yn agor drws y Parlwr i lawer o westeion.
O gynghorau ysgol lleol i grwpiau cymunedol ac elusennau, mae’r Maer yn croesawu pawb ac yn cael boddhad mawr o roi cipolwg ar hanes Wrecsam i ymwelwyr â Neuadd y Dref.
Fodd bynnag, nid dim ond unrhyw wers hanes mo hon. Mae gan y Maer eitemau arbennig i ddod a hanes y fwrdeistref sirol, a hanes y byd, yn fyw.
Dyma’r pump mwyaf diddorol…
5. Darn o Wal Berlin
Fel canlyniad i’r Ail Ryfel Byd, rhwng 1961 a 1989 roedd yr Almaen wedi’i rhannu â wal goncrit enfawr a oedd yn gwahanu Gorllewin Berlin oddi wrth Dwyrain yr Almaen a Dwyrain Berlin.
Codwyd y wal gan Ddwyrain yr Almaen a dechreuodd y gwaith ym mis Awst 1961. Roedd y wal, yn drist iawn, yn gwahanu teuluoedd am flynyddoedd lawer hyd mis Tachwedd 1989 pan gafodd ei hagor er mwyn arwain y ffordd at aduno’r Almaen
Dechreuodd y gwaith dymchwel swyddogol ar Fehefin 13, 1990 gyda llawer o bobl yn casglu darnau o’r wal i’w cadw fel symbol i’n hatgoffa na ddylai’r fath beth byth ddigwydd eto.
Rydym yn ffodus fod gennym ddarn prin iawn o’r wal ag arno weddillion y lluniau a gafodd eu paentio ar hyd y strwythur mewn ymgais i’w wneud yn llai gormesol.
O gofio pa mor drwchus oedd y wal a faint o ddarnau ohoni y byddai pobl wedi’u cymryd, mae’r ffaith fod gennym damaid gyda darn o waith celf arno yn anhygoel.
4. Brics Coch Rhiwabon
Roedd cynhyrchiant brics a theils yn ddiwydiant mawr iawn ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru yn y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd.
Un o’r cewri mwyaf blaenllaw yn y maes hwn oedd Henry Dennis gyda’i Ffatri Teils Dennis Rhiwabon enwog a fu’n weithredol yn yr ardal am gyfnod anhygoel o 130 o flynyddoedd ac sydd wedi gadael etifeddiaeth barhaus.
Yn enwog am eu lliw coch nodedig, a arweiniodd at eu galw’n gyffredin yn ‘Frics Coch Rhiwabon’ – helpodd y brics a’r teils hyn i siapio adeiladau yn ac o amgylch Wrecsam.
Ond nid dyma ddiwedd y stori; gyda’r brics enwog yma adeiladwyd llysoedd y gyfraith, tafarndai, ysgolion, prifysgolion ac ysbytai ar hyd a lled y DU.
Yr adeiladau enwocaf a adeiladwyd o Frics Coch Rhiwabon yw y Pierhead yng Nghaerdydd ac Adeilad Prifysgol Fictoria yn Lerpwl.
Ar adeilad y Pierhead mae murluniau teracota, hefyd wedi’u gwneud yn Rhiwabon.
Ffynnodd cynhyrchiad teils a theracota yn ysod y 19 ganrif o ganlyniad i ganfyddiad clai safon uchel o’r enw Etruria Marl yn yr ardal ac yn sgil hyn enillodd Rhiwabon y llysenw ‘Terracottapolis’!
Roedd y clai yn boblogaidd am nad oedd yn mynd yn llai wrth gael ei grasu, gan olygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer y gwaith brics addurniadol yr oedd penseiri’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yn ei ffafrio gymaint.
Mae’r Fricsen Goch Rhiwabon sy’n cael ei chadw gyda balchder ym Mharlwr y Maer yn sicr yn gwneud i rywun feddwl pa mor dda fyddai hi pe gallai waliau siarad!
3. Y biled olaf o ddur a gafodd ei rowlio yng Ngwaith Dur Brymbo
Mae gan Wrecsam hanes diwydiannol cyfoethog a balch sydd wedi rhoi’r dref ar y map.
Un o’r diwydianwyr arloesol enwocaf oedd John ‘Iron Mad’ Wilkinson, perchennog Gwaith Dur y Bers.
Yn 1792, prynodd Wilkinson Neuadd Brymbo gyda’i 500 acer o dir am £14,000 gan y teulu Assheton-Smith.
Roedd yr ystâd wedi’i hadeiladu ar dir a oedd yn gyfoeth o ddyddodion glo a haearn a lle’r oedd pyllau glo bach o’r cyfnod cyn i Wilkinson brynu’r tir yn bodoli. Roedd y ffwrnais chwyth gyntaf yn weithredol yn 1796 – y gyntaf o sawl un a ledaenodd ar hyd ochr y bryn i greu Gwaith Dur Brymbo.
Agorwyd ail ffwrnais yn 1805 ond ar ôl gweithredu i gychwyn fel safle gwaith dur, ar ôl marwolaeth Wilkinson rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio er gwaethaf sawl ymgais i’w adfywio.
Yn y 1840au, cafodd y gwaith a oedd erbyn hynny fwy neu lai yn adfeilion ei adfywio gan griw o entrepreneuriaid Albanaidd dan arweiniad Henry Robertson. Erbyn y 1880au, roedd y gwaith wedi dechrau cynhyrchu dur.
Yn 1967, cafodd Brymbo a gweddill diwydiant dur y DU ei wladoli a dechreuodd cynhyrchiant dur o safon uchel.
Yn ystod y ddau Ryfel Byd roedd Brymbo’n cynhyrchu dur arbenigol ac yn sgil y profiad a gafwyd yn ystod y cyfnodau hyn enillodd y gweithlu enw da am ddur o safon.
Roedd Brymbo’n enwog am gynhyrchu dur aloi gyda mwynau fel nicel, manganîs, alwminiwm a chromiwm i’w ddefnyddio ar gyfer darnau ceir a longau gofod.
Parhaodd cynhyrchiad tan 1990 pan gaewyd y gwaith gan ei berchnogion
Cafodd y bilet olaf o ddur ei rowlio ar 12fed Hydref 1990 a’i dorri’n ddarnau i’w roi fel swfenîrs.
Mae un o’r darnau hyn i’w weld yn y Parlwr heddiw, gan gadw’r atgofion yn fyw.
Heddiw saif gweddillion gwaith dur Brymbo’n dawel yn edrych dros yr ardal gyfagos – ciplun o gyfnod buddugoliaethus.
2. Lamp Glowr
Pennod arall yn ngorffennol Wrecsam yw’r diwydiant a’r gymuned gloddio.
Erbyn y 19fed ganrif, roedd Wrecsam yn ardal hynod ddiwydiannol gyda 38 pwll glo ar waith pan oedd y diwydiant ar ei anterth. O amgylch y pyllau glo niferus hyn tyfodd rhes o bentrefi’n ymestyn o Frymbo a Llai yn y gogledd i Cefn Mawr a’r Waun yn y De.
Roedd y pyllau hyn yn cynhyrchu 2.5 miliwn o dunelli o lo bob blwyddyn – glo ar gyfer ein gweithfeydd brics a dur, gan gynnwys gwaith dur Shotton a oedd yn gwsmer mawr yn yr 20fed ganrif.
Un o’n pyllau oedd Pwll Glo y Bers.
Yn weithredol o 1868 hyd 1986, roedd y pwll yn rhoi gwaith i gannoedd o ddynion lleol, gyda meibion yn dilyn eu tadau i’r diwydiant.
Roedd y gwaith yn galed tu hwnt ac nid heb ei drasiedïau. Yn 1880, achosodd ffrwydrad tanddaearol enfawr farwolaeth naw dyn gan gynnwys rheolwr y pwll, William Patterson.
Digwyddodd y ddamwain fawr olaf yn 1909 pan gollodd llawer mwy eu bywydau mewn ffrwydrad arall.
Wnawn ni byth anghofio’r gwaith caled a’r colledion sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd ac mae’r ymdrechion enfawr hyn bob amser yn cael eu dathlu.
Y Bers oedd y pwll glo gweithredol olaf yn yr ardal pan gafodd ei gau yn 1987. I nodi’r achlysur cyflwynodd Ysgrifennydd Cangen NUM y Bers, Raymond Elli, lamp glöwr o’r safle i Gyngor Wrecsam.
Mae’r lamp dal yma heddiw, gan daflu goleuni llachar ar y gorffennol i bawb ei weld.
1. Poteli Wrexham Lager
Yn 1881, roedd y mewnfudwyr Almaenaidd Ivan Levinstein ac Otto Isler yn dyheu am flâs ewyn adfywiol eu lager lleol.
Drwy ddamwain, yn eu hymgais i ailgreu’r rysáit hwnnw, fe grëwyd Wrexham Lager!
Mae’n debyg fod Wrecsam bryd hynny yn enwog am gwrw da gan ei bod yn ymddangos fod y rhan fwyaf o fuddsoddwyr yn byw o amgylch Manceinion. Mae’n rhaid fod hyn yn rhan o’r rheswm pam y bu i’r ddau Almaenwr ddewis y dref i agor bragdy lager cyntaf Prydain.
Dewisodd y ddau safle ar gyfer bragu a dargyfeirio dŵr o dan y ddaear gyda ffynhonnau ar dir ger Ffordd Maesgwyn.
Dyma oedd cyfrinach y blas da – dŵr da Wrecsam, dŵr a oedd yn gwasanaethu 19 o fragdai yn y cyfnod hwnnw.
Er i’r bragdy gael ei ailadeiladu unwaith neu ddwywaith dros y blynyddoedd, mae adeilad gwreiddiol a rhestredig y bragdy yn dal i sefyll y tu ôl i adeilad adran gelf Prifysgol Glyndŵr.
Ond mae Wrexham Lager hefyd yn gysylltiedig â hanes mordwyol enwog. Flynyddoedd yn ôl, roedd cwmni’r White Star Line yn rheoli’r moroedd gyda’i longau teithwyr, ac aeth un dyn penodol am daith ar un ohonynt gan greu dipyn o gyffro…..
Nid oedd y diodydd alcoholig cynharaf yn teithio’n dda iawn ar y môr. Ond aeth Robert Graesser, rheolwr gyfarwyddwr Wrexham Lager Beer Co. a photeli Wrexham Lager efo fo ar ei fordaith, ac yn wyrthiol, pan gyrhaeddodd ben ei daith, roedd y cwrw gystal ag yr oedd y diwrnod y cafodd ei roi yn y poteli!
Daeth hyn i sylw perchennog y White Star Line a oedd eisiau manteisio ar hyn, a tharodd fargen gyda Wrexham Lager i weini eu diod ar y llong newydd, chwyldroadol, gyntaf o’i math na fyddai byth yn suddo – RMS Titanic!
Dywedir fod poteli fel y rhai sydd i’w gweld ym Mharlwr y Maer wedi cael eu darganfod yng ngweddillion y llong anffodus.
Yn ôl sôn hefyd, gwnaed rhai o’r teils a oedd yn addurno’r llong yng Ngwersyllt!
Rhoddwyd y gorau i fragu Wrexham Lager yn 2000 er siom fawr i’r bobl leol. Yn ffodus, yn 2011, adfywiodd y teulu Roberts y brand gan adeiladu bragdy newydd yng nghanol y dref i fragu Wrexham Lager gan ddilyn yr un rysáit ag un gwreiddiol Levinstein ac Isler.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR