Ydych chi’n grŵp neu’n sefydliad sy’n darparu cyfleoedd chwarae i blant yn Wrecsam?

Os felly, gallech fod yn gymwys i grant o hyd at £1000!

Mae’r grantiau’n cael eu cynnig i grwpiau a sefydliadau yn Wrecsam diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Y pwrpas yw gwella cyfleoedd i blant (gan gynnwys plant yn eu harddegau) gael chwarae, gyda’r nod o helpu i sicrhau bod cyfleoedd chwarae digonol ar draws y fwrdeistref sirol.

Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer y cyllid i brosiectau sy’n dangos dulliau arloesol i wella chwarae, yn arbennig rhai sy’n datblygu ffyrdd i annog a chreu cyfleoedd ar gyfer chwarae yn yr awyr agored, gall hyn gynnwys:

  • Arbrofion chwareus
  • Tirlunio syml
  • Gwella arwyddion
  • gostegu traffig
  • Digwyddiadau yn y gymuned neu hyfforddiant

Os ydych yn ansicr o beth i wneud cais amdano, cysylltwch ag aelod o staff y Tîm Datblygu Chwarae i drafod syniadau posibl.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Sefydlwyd y rhaglen grantiau tymor byr hon gan fod Llywodraeth Cymru, yn ddiweddar, wedi rhoi cyllid ar gael i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant a Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Cymru , yn benodol.

Mae’r rhaglen grantiau’n agored i unrhyw sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio gyda phlant neu’n gweithio i’w cefnogi a chefnogi eu cyfleoedd i chwarae yn Wrecsam.  Gallwch ymgeisio am hyd at £1,000, ond, yn ddibynnu ar y galw am gyllid a chynaliadwyedd y ceisiadau a dderbynnir, fe all Tîm Datblygu Chwarae CBSW benderfynu dyrannu mwy neu lai i brosiectau na’r swm y gofynnwyd amdano’n wreiddiol, lle bo hynny’n briodol.

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Dyma gyfle gwych i grwpiau a sefydliadau yn Wrecsam ymgeisio am arian i gefnogi plant a’u cyfleoedd chwarae.  Mae chwarae yn gwneud cyfraniad sylweddol i ffitrwydd a lles plant ac mae hwn yn gyfle ardderchog i grwpiau yn Wrecsam.”

O ganlyniad i’r amserlenni byr a’r pwysau i wario’r arian hwn, y dyddiad cau terfynol fydd dydd Gwener, 22 Chwefror 2019.  Darllenwch y canllawiau grant cyn gwneud cais.

Mwy o wybodaeth ar gael yma

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

YMGEISIWCH NAWR