Mae Holt yn un o lawer o lefydd ym mwrdeistref sirol Wrecsam gyda chyfoeth o hanes…
Efallai bod rhai ohonoch yn gwybod ond efallai y bydd ffaith yma nad ydych wedi’i glywed o’r blaen.
Hoffem feddwl bod rhyw bwt diddorol i bawb rhywle yn y darn hwn 🙂
Felly heb oedi rhagor – dyma bum peth diddorol am Holt…
1. Holt a’r Rhufeiniaid 🙂
Amser maith yn ôl – AC49 i fod yn fanwl gywir, dechreuodd y Rhufeinwyr heidio i Ogledd Cymru ac erbyn AC79 roedden nhw’n rheoli Gogledd Cymru o’u castell yng Nghaer…
Roedd y Rhufeiniaid wedi sefydlu gweithdy yn Holt oedd yn cynhyrchu teils a chrochenwaith. Cynhyrchwyd cyfansymiau anferthol gyda’r cyfnod yn dod i anterth gyda hyn yn ystod AC87 a AC135.
Mae’n deg dweud bod y masgynhyrchu hwn yn bwysig i lwyddiant y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru.
Fel nodyn ymylol diddorol, mae darganfod setliad sifiliaid ym Mhlas Coch, Wrecsam yn awgrymu fod tarddiad Wrecsam yn bodoli rhywle yn y cyfnod Rhufeinig (crochenwaith a darnau arian yn awgrymu rhwng AC150-350).
Mae huna’n cŵl dydi?
2. Eglwys Sant Chad
Mae’r eglwys dywodfaen goch rhagorol yn dyddio nôl i 1395.
Mae gan ddrws y gogledd gloerdyllau ar gyfer barilau gwn sy’n dyddio nôl i gyfnod Rhyfel Cartref 1645. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod yna frwydr wedi bod tu mewn i’r eglwys.
Mae’r eglwys yr un mor brydferth y tu mewn ag y mae tu allan – yn enwedig y ffont syfrdanol o hardd o’r 15fed ganrif.
Ym mis Awst, mae’r ddefod hynafol o gludo brwyn yn atyniad mawr, pan ddygir brwyn newydd o lannau’r Afon Dyfrdwy mewn gorymdaith a phan addurnir y beddau â blodau.
3. Eglwys Ganoloesol
Mae pont ganoloesol yn cysylltu Holt gyda phentref Farndon.
Mewn gwirionedd mae’r strwythur tywodfaen coch nodweddiadol yn rhannu dwy wlad….. felly os ydych eisiau croesi’r ffin, dyma ffordd braf iawn o wneud hynny.
Mae wedi bod yn fan pwysig i groesi’r ffin ers canrifoedd!
4. Castell Holt
Adeiladwyd Castell Holt rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne.
Fe adeiladodd Castell Holt, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Castell y Llewod’, i reoli rhyd strategol gerllaw ar draws yr Afon Dyfrdwy.
Roedd yn gastell pumochrog, gyda phump o dyrau crwn enfawr o amgylch y cwrt.
Mae ganddo hanes enwog – ac mae manylion i’w cael ar wefan y cyngor.
Yn dilyn prosiect adfer pedair blynedd, ail-agorwyd olion Castell Holt i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2015 🙂
5. Leigh Richmond Roose
Ydych chi awydd rhywbeth ychydig yn wahanol? 😉
Un o feibion mwyaf enwog Holt oedd Leigh Richmond Roose…
Cafodd y peldroediwr proffesiynol ei eni yn Holt ac fe ddechreuodd ei yrfa gydag Aberystwyth ym 1895.
Gôl geidwad oedd ei safle ac roedd yn enwog dros Gymru gyfan am ei gampau oedd yn creu argraff ar y dorf 🙂
Byddai’n troi ei gefn ar chwarae i ddweud jôcs wrth y cefnogwyr a byddai’n perfformio gymnasteg ar y croesfar tra bod y bêl ochr arall i’r cae.
Fe chwaraeodd i dimau da gan gynnwys Stoke City, Everton, Sunderland, Celtic, Aston Villa a Woolwich Arsenal.
Yn anffodus, bu farw Leigh ym Mrwydr Somme yn Hydref 1916…. a fynta’ ond yn 38 oed!
Bu erthygl newyddion am Leigh ar y BBC ychydig flynyddoedd yn ôl.
Gobeithio eich bod erbyn hyn yn gweld Holt fel lle digon diddorol.
Byddwn yn datgelu llefydd eraill o amgylch bwrdeistref sirol Wrecsam yn yr wythnosau nesaf felly cadwch eich llygaid yn agored 😉
DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I