Os oes ar eich plentyn eisiau bod yn greadigol y Pasg hwn, edrychwch ar y rhestr isod i weld beth sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod gwyliau’r Pasg.
Dydd Llun, 26 Mawrth – Sesiwn Grefftau Strafagansa’r Pasg. Sesiwn grefftau ar gyfer plant dan 10 oed, 2.30-3.30pm yn Llyfrgell y Waun. Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y sesiwn felly ffoniwch 01691 772344 i gadw eich lle.
Dydd Mawrth, 27 Mawrth – Crefftau’r Pasg. Galwch i Felin Nant rhwng 1.30pm a 3.30pm i wneud crefftau ar gyfer y Pasg. Mae’r digwyddiad yn addas i bob oedran ac yn costio £2.50 fesul plentyn. Bydd cystadleuaeth bachu hwyaden a thombola ar gael hefyd. Ffoniwch 01978 763140.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Dydd Iau, 29 Mawrth – Boneti a Choronau’r Pasg. Dewch i Barc Gwledig Tŷ Mawr rhwng 1.30 a 3.30pm i ymuno i wneud bonet Pasg. Ffoniwch 01978 763140.
Dydd Mawrth, 3 Ebrill, Creu a Chadw yn Amgueddfa Wrecsam. Galwch heibio’r amgueddfa rhwng 10.30am a 12.30pm i ymuno â’r gweithgaredd crefftau hwn sy’n seiliedig ar Gasgliad Bronington o’r 15 Ganrif. Mae hon yn sesiwn grefftau galw heibio i deuluoedd a phlant. Ffoniwch 01978 297460.
Dydd Iau, 5 Ebrill – Blodau’r Gwanwyn ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr. Mae’r digwyddiad hwn yn addas i bob oed a gallwch wneud blodau’r gwanwyn hardd o bapur. £2.50 y plentyn. Ffoniwch 01978 763140.
Cadwch olwg arnom drwy’r gwyliau i gael gwybod am ragor o ddigwyddiadau.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU