Mae pump o ferched ifanc o Wrecsam wedi llwyddo i ennill gwobr genedlaethol yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni am hyrwyddo Iechyd a Lles
Aeth Lauren Lewis, 17, Jade Griffiths, 17, Chloe Roberts, 17, Emma Baker, 16 a Katelyn Owen Jones, 14 ati i gefnogi ac ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw mewn gwledydd trydydd byd fel Gambia.
Buont yn gweithio gyda’n Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg ac yn datblygu’r prosiect Creu Newid a arweiniodd yn y pen draw at godi dros £12,500 drwy gynnal sioeau ffasiwn, bingo, ffeiriau Nadolig, rasys hwyaid, her y 3 chopa, canŵio noddedig a llawer llawer mwy!
Yna teithiodd y pump ohonynt i Gambia i gymryd rhan yn y Prosiect Gunjur sy’n canolbwyntio ar sicrhau fod pawb sy’n ymweld â Gambia yn cael effaith bositif ar y gymuned leol a Gambia gyfan cyn iddynt ymadael. Ar ôl cyrraedd defnyddiwyd yr arian a gasglwyd mor ddiwyd ganddynt i gefnogi tri o blant i astudio a mynd i’r ysgol am dair blynedd, ariannu un ferch ifanc i astudio bydwreigiaeth er mwyn helpu ei theulu a’i ffrindiau ac ariannu un dyn i weithio yn y lloches adar leol a fyddai’n ei helpu i gefnogi ei deulu o ddeg am flwyddyn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Fe wnaethant lwyddo hefyd i ddarparu rhwydi mosgitos, nwyddau cymorth cyntaf, nwyddau glanweithiol ac offer papur a phaent i ysgol gynradd leol. Bonws ychwanegol i’r prosiect oedd gweld waliau allanol yr ysgol yn cael eu gwyngalchu a’u haddurno â dyluniadau lliwgar y plant.
Mae Prosiect Gunjur yn canolbwyntio ar sicrhau fod pawb sy’n ymweld â Gambia, boed hynny ar eu gwyliau neu wrth wirfoddoli, yn cael effaith bositif ar y gymuned leol a Gambia gyfan.
Mae eu gwaith bellach wedi’i gydnabod gan y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid am hyrwyddo Iechyd a Lles mewn digwyddiad diweddar ym mhrifddinas Caerdydd. Cawsant hefyd Wobr Mileniwm Byd-eang 50 awr a oedd yn cydnabod eu cyfraniad at wirfoddoli dramor ar yr un noson.
“ysbrydoliaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi:
“Mae’r 5 merch ifanc yn ysbrydoliaeth i bawb a ddarllenodd eu stori. Mae eu trugaredd a’u dyngarwch yn sefyll allan ac rwy’n eu llongyfarch am eu gwobrau haeddiannol iawn.”
Cyflwynwyd y Wobr gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Dywedodd Caroline a Tina a siaradodd ar ran y grŵp cyfan:
“Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y prosiect gan na fyddai wedi bod mor llwyddiannus heb gefnogaeth cymaint o bobl ac ni fyddai’r bobl ifanc wedi cael profiad mor anhygoel.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI