Yn ein trydydd rhifyn o bethau diddorol am leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn canolbwyntio ar Rosllannerchrugog – neu ‘Rhos’ fel mae’n cael ei alw’n lleol.
Roedd yn anodd iawn cadw at bum peth yn unig, ond fe ddaethom i ben yn y pendraw…
Felly dyma ein pum peth diddorol am Rosllannerchrugog 🙂
1. Rosemarie Frankland
Fe anwyd Rosmarie yn Rhosllannerchrugog ar 1 Chwefror, 1943, a byddai’n cyflawni enwogrwydd byd eang!
Roedd hi’n ferch hynod brydferth, ac yn 18 mlwydd oed fe gipiodd hi goron Miss World yn 1961… hi oedd yn ail yng nghystadleuaeth Miss Universe 1961 hefyd!
Ac roedd hyn oll ychydig fisoedd ar ôl gweithio tu ôl i gownter Marks and Spencer.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Fe wyliodd mwy na 10 miliwn o bobl hi’n cael ei choroni fel Miss World, oedd yn ychwanegu at ei theitlau blaenorol o Miss Lancashire, Miss Lake District a Miss Wales.
Roedd Rosmarie yn awyddus i ddilyn gyrfa fel actores, ac fe serennodd hi mewn sawl ffilm, ‘I’ll Take Sweden’ yn 1965 yn arbennig.
Yn drist iawn, bu farw Rosmarie ar 2 Rhagfyr, 2000.
Gellir dod o hyd i ragor o hanes Rosmarie yn yr erthygl hon o’r Telegraph.
2. Ystâd Llannerchrugog a gweithred eithriadol o herfeiddiwch
Perchennog hen ystâd Llannerchrugog oedd y teulu Jones o’r blynyddoedd 1400 cynnar hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg – sy’n anhygoel yn ei hun – ond rydym yn mynd i ganolbwyntio ar un digwyddiad a ellir ond ei ddisgrifio fel gweithred o herfeiddiwch.
Digwyddodd hyn yn 1649, pan awgrymodd perchennog y tir, John Jones, y dylai gael ei eithrio o dalu trethi.
Roedd yn honni bod hyn oherwydd ei linach, a oedd yn dyddio’n ôl 2,400 o flynyddoedd i gyfnod Dyfnwal Moelmud, a oedd yn Frenin Cymraeg.
Rhoddodd hanes hynod fanwl ei achau, sydd wedi cael ei gofnodi yn ‘Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion’.
Mae’n anhygoel ei fod o’r farn y byddai ei ‘waith ymchwil’ yn ei eithrio o dalu ei drethi, ymhell cyn bodolaeth Ancestry.com 😉
Dyma’r unig achos hysbys o rywun yn defnyddio eu llinach i hawlio esemptiad trethi.
Waw!
3. Taith Gerdded Cronfeydd Dŵr Mynyddig
Mae taith gerdded wych sy’n dechrau yn Rhosllannerchrugog efallai nad oeddech yn ymwybodol ohoni…
Mae’n cynnwys esgyniad ysgafn i fyny Mynydd Esclusham ac mae’n cael ei argymell yn daer.
Mae’r daith yn dechrau ger y Sun Inn, Stryt y Plas, Rhosllannerchrugog, ac mae’n pasio Park Lodge, a ffurfiodd rhan o ystâd Llannerchrugog y soniwyd amdani uchod.
Wedyn, mae’n pasio cronfeydd dŵr Tŷ Mawr a Cae-llwyd…gyda golygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd!
Byddwch yn barod, bydd angen diwrnod cyfan i gwblhau’r llwybr yn llawn. Mae’r daith yn un 5.5 milltir, ac fe gynghorir i chi ganiatáu tair awr o leiaf i’w chwblhau.
Mewn gwirionedd, caniatewch ychydig yn hirach fel eich bod yn gallu cael seibiant i fwynhau’r golygfeydd 🙂
Mae gennym ganllaw cerdded syml sy’n sôn am y llwybr, sydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan…
Felly rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen 😉
4. Pyllau Glo Rhosllanerchrugog
Mae datblygiad pentref Rhosllannerchrugog yn ddiolch i’r gwelyau glo sydd wedi eu lleoli gerllaw.
Mae hyn yn golygu bod y gymuned codi glo wedi’i sefydlu yn y ddeunawfed ganrif ac fe dyfodd yn sylweddol o’r 1840au ymlaen.
Nid yw’n syndod felly bod llawer o bobl wedi symud yma i chwilio am waith, a daeth llawer o’r mudo hwn o ardaloedd Cymraeg Gorllewin Cymru. Mae hyn wedi arwain at enwogrwydd Rhosllannerchrugog am fod yn ardal Gymraeg ei hiaith.
Fel nodyn diddorol arall, ni ddisgynnodd poblogaeth siaradwyr Cymraeg yr ardal o dan 50% nes cyfrifiad 1981.
Mae Rhosllannerchrugog wedi cynnwys cymuned leol gref iawn, erioed.
Ac mae cryfder y gymuned leol yn cael ei ddynodi gan y ffaith mai cyfraniadau o gyflog wythnosol y glowyr dalodd am theatr y Stiwt 🙂
Sy’n ein harwain yn gyfleus at rif pump…
5. Theatr y Stiwt
Wrth gwrs, y theatr drawiadol 490 sedd…
Sefydlwyd y theatr yn 1926 gan Sefydliad y Glowyr (dyna o le ddaeth y gair ‘Stiwt’).
Mae llawer yn digwydd yn y Stiwt – megis pantomeimiau, dosbarthiadau dawnsio clasurol neu ffilm i’r plant ar foreau Sadwrn. Fe ddangoson nhw Gemau Rhyngwladol Rygbi’r Undeb dros yr hydref hyd yn oed.
Fe ysgrifennon ni erthygl blog ar y Stiwt yn ddiweddar ac mae’n werth ei ddarllen.
Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau ein pum peth diddorol am Rosllannerchrugog 🙂
Os wnaethoch chi, cadwch lygad ar ein darnau ar ragor o leoedd o amgylch ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn yr wythnosau i ddod!
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU