Yn y rhifyn hwn o ‘bum peth diddorol am lefydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’, byddwn yn canolbwyntio ar y Waun 🙂
Mae gennym lawer o bethau i’w cyflwyno i chi, felly gadewch i ni ddechrau gyda’n ffefryn sy’n siŵr o fod yn syndod i chi…
1. Castell y Waun
Adeiladwyd Castell y Waun ym 1295 gan Robert Mortimer de Chirk, roedd yn un o’r grŵp o gaerau a gafodd eu hadeiladu gan Edward I ar draws Gogledd Cymru, a’u pwrpas oedd cadw Cymru dan reolaeth Lloegr.
Adeiladwyd y castell â strategaeth amddiffynnol mewn golwg, mae’r waliau, er enghraifft, yn bum medr o drwch. Adeiladwyd y castell yn hynod grefftus.
Ym 1595, prynwyd Castell y Waun gan Syr Thomas Myddleton am £5,000 – sy’n swnio fel pris rhad iawn o’i gymharu â phrisiau heddiw – ond mewn gwirionedd, nid oedd yn bris rhad o bell ffordd.
Gwariodd Thomas lawer iawn o arian i wella’r castell, gan gynnwys adeiladu Rhes y Gogledd a’r Ystafelloedd Mawreddog, gyda’r bwriad o’i ddefnyddio fel ei gartref teuluol… ond yn Essex oedd ei brif gartref.
Dros y 400 mlynedd nesaf, teulu Myddleton oedd yn rheoli Castell y Waun, ac ymhlith y cenedlaethau dilynol roedd diwydianwyr, entrepreneuriaid a gwleidyddion uchelgeisiol.
Ym 1910, disgynnodd Thomas Scott-Ellis mewn cariad â Chastell y Waun a bu’n prydlesu’r castell gan y teulu Myddleton. Parhaodd hyn tan 1946, pan benderfynodd ymddeol yn ôl i’w ystadau Albanaidd.
Erbyn hyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y castell, ac mae’n agored i’r cyhoedd fynd i ymweld ag ef.
Gall ymwelwyr yng Nghastell y Waun archwilio’r Ystafelloedd Mawreddog, gweld Neuadd Cromwell (sydd ag arfau Rhyfel Cartref prin), ymweld â’r capel, cerdded drwy’r gerddi, a gweld Neuadd y Gweision, ynghyd â nifer o uchafbwyntiau eraill.
Yn ogystal â hynny, mae nifer o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt, megis cerdded Nordig ac adnabod coed yn y gaeaf.
Mae Castell y Waun yn lle gwych i ymweld ag ef 🙂
2. Parc Gwledig Brynkinalt
Yn llawer llai adnabyddus na Chastell y Waun, ond hefyd yn ddeniadol mewn ffordd unigryw, Parc Gwledig Brynkinalt yw ein hail ddewis.
Mae wedi’i ddisgrifio fel ‘trysor cudd,’ ac mae’n debyg nad yw’n denu gymaint o ymwelwyr o’i gymharu â’n parciau gwledig eraill.
Os byddwch yn ymweld â Pharc Gwledig Brynkinalt, cewch fwynhau rhwydwaith o lwybrau troed yn mynd drwy dirlun llawn o flodau a bywyd gwyllt (gan gynnwys gloÿnnod byw glas hyfryd yn ystod yr haf).
Mae’r parc hefyd yn cynnwys arteffactau mwyngloddio, wagen lo a disg dorri i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol y parc.
Dyma fideo byr i roi cipolwg i chi…
3. Traphont Ddŵr y Waun
Adeiladwyd Traphont Ddŵr y Waun gan Thomas Telford a William Jessop, mae iddi ddeg acer – a phob un yn 40 troedfedd o led.
Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1801, ac mae’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Mae camlas y Draphont tua 70 troedfedd uwchlaw Dyffryn Ceiriog hyfryd, ac mae’n rhaid i chi ymweld â hi os ydych chi yn yr ardal.
Mae’r draphont wedi’i disgrifio fel ‘campwaith arbennig o beirianneg’ ac nid oes modd osgoi ei hysblander.
Mae ein herthygl blog am y Draphont fwy ym Mhontcysyllte yn rhoi cipolwg ar sut wnaeth Telford, Jessop ac eraill gydweithio i wireddu eu gweledigaeth.
Ond rhywsut neu’i gilydd, wrth edrych ar y draphont, mae’n anodd peidio â phendroni – ‘sut ar y ddaear y codwyd hon?’
4. Llwybr cerdded y Waun ac Afon Ceiriog
Mae digonedd o ddewis yn yr ardal hon os ydych chi’n mwynhau cerdded, ond mae yna rhywbeth arbennig am y llwybr hwn.
Mae’n llwybr cerdded cylchog sy’n eich arwain o’r Waun (gan gychwyn ger yr orsaf rheilffordd), i Gastell y Waun, cyn dod i lawr tuag Afon Ceiriog, sy’n dilyn ymyl yr afon yn ôl i’r Waun.
Mae golygfeydd godidog i bob cyfeiriad, felly cofiwch fynd â chamera neu ffôn clyfar hefo chi.
Mae’r llwybr yn tua saith milltir o hyd, felly mae’n debyg y byddwch chi angen diwrnod llawn i ymhyfrydu yn y daith a chymryd ambell i egwyl. Neu os nad ydych chi’n bwriadu cymryd egwyl, disgwyliwch dreulio pedair awr yn cwblhau’r llwybr.
Yn debyg iawn i nifer o lwybrau lleol, mae gennym ganllaw gwych ar gyfer y llwybr hwn, gallwch ei lawrlwytho ar ein gwefan.
Felly estynnwch yr esgidiau cerdded… os nad ydych chi wedi dechrau ar eich taith i Barc Gwledig Brynkinalt yn barod 😉
5. Billy Meredith
Ganed William Henry Meredith, sy’n fwy adnabyddus fel Billy, yn y Waun ym 1874 ac aeth ymlaen i fod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol.
Roedd yn chwaraewr da iawn – bu’n cynrychioli’r ddau glwb ym Manceinion – a chwaraeodd i Gymru 48 o weithiau, gan sgorio 11 gôl.
Mae wedi’i ddisgrifio fel ‘mab mwyaf enwog y Waun’ a ‘seren cyntaf Manceinion Unedig’, dau beth i fod yn falch iawn ohonynt.
Ei hoff safle oedd ‘asgellwr dde’. I’r rheiny sy’n anghyfarwydd â’r safle hwn, meddyliwch am Cristiano Ronaldo yn ifanc – yn chwarae ar ochr dde’r cae, gyda’r bwriad i ymosod.
Roedd yn aelod o grŵp o chwaraewyr a helpodd Manceinion Unedig i ennill eu teitl cynghrair cyntaf. Aethant ymlaen i ennill teitl cynghrair arall, Cwpan FA a dwy Darian Elusennol yn ystod ei gyfnod yno.
Gellir darganfod mwy am hanes Billy yn yr erthygl Newyddion BBC hon. Roedd yn gymeriad diddorol tu hwnt a lwyddodd i chwarae pêl-droed yn broffesiynol nes yr oedd yn hanner cant!
Gobeithiwn i chi fwynhau’r rhifyn hwn, a chofiwch gadw llygad allan unwaith eto am y rhifyn nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR