Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > 5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn
Busnes ac addysgY cyngor

5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn

Diweddarwyd diwethaf: Medi 3, 2021 10:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Five
RHANNU

Wrth i blant ddychwelyd yn ôl i’r ysgol, gofynnwn i rieni, gofalwyr a dysgwyr ddilyn rhai rheolau syml i helpu cadw pawb yn ddiogel.

Cynnwys
  • Gallwn ni oll wneud ein rhan
  • Sut i gael citiau prawf ychwanegol
  • Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol?

Trwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru, gallwch helpu i leihau’r risg o ledaenu Covid-19…a helpu i sicrhau fod pawb yn gwneud y mwyaf o’r ysgol y tymor hwn.

  1. Os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol, cadwch nhw adref a gwnewch brawf.
  2. Dim symptomau? Sicrhewch eu bod yn cymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adroddwch am yr holl ganlyniadau.
  3. Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu eich plentyn (ar hyn o bryd, gall bawb yng Nghymru sy’n 16 oed a throsodd gael y brechlyn).
  4. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.
  5. Dilynwch reolau’r ysgol ar orchuddion wyneb. Bydd angen i ddisgyblion uwchradd (Blwyddyn 7 ac uwch) wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant ysgol.

Os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau, hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol, cadwch nhw adref a gwnewch brawf.

Gallwn ni oll wneud ein rhan

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg:

“Er bod y sefyllfa yn llawer gwell na’r llynedd yn sgil llwyddiant y brechlyn, mae’r feirws yn dal yma – felly mae’n hanfodol ein bod ni oll yn gwneud ein rhan i gadw Covid draw.

“Os yw eich plentyn yn yr ysgol uwchradd, sicrhewch eu bod yn cymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac yn dilyn y rheolau ar orchuddion wyneb…yn arbennig ar gludiant ysgol.

“Ac os ydynt yn dangos unrhyw symptomau, cadwch nhw adref ac archebwch brawf PCR.

“Ar ôl 18 mis anodd, mae’n bwysig iawn bod ein plant yn gwneud y mwyaf o’r ysgol y tymor hwn, felly gadewch i ni gydweithio er mwyn helpu cadw ein dosbarthiadau yn ddiogel a’n dysgwyr yn dysgu.”

Os ydych chi’n gollwng eich plant wrth gatiau’r ysgol neu’n dod i’w nôl nhw (os ydyn nhw’n mynd i ysgol gynradd, er enghraifft), dylech ystyried gwisgo mwgwd ar eich wyneb… yn enwedig os oes llawer o bobl o gwmpas.

Does dim rhaid ichi wneud, ond efallai ei fod yn rhywbeth ichi ei ystyried.

Sut i gael citiau prawf ychwanegol

Os ydych angen mwy o gitiau prawf llif unffordd, gallwch eu harchebu ar-lein, neu eu casglu o’r pwyntiau casglu lleol.

Cofiwch fod angen i ddisgyblion ysgol uwchradd wneud dau brawf llif unffordd yr wythnos.

Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol?

A fydd eich plentyn yn defnyddio cludiant i’r ysgol y tymor hwn?

Cofiwch y bydd angen i ddisgyblion ysgol uwchradd wisgo gorchudd wyneb, felly sicrhewch eu bod yn barod.

Dyma wybodaeth ddefnyddiol am gludiant ysgol…

Ydych chi’n defnyddio cludiant i’r ysgol? Darllenwch hwn …

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam a Chaer yn ymuno i gloddio i’r gorffennol Wrecsam a Chaer yn ymuno i gloddio i’r gorffennol
Erthygl nesaf Victorian Ydi hi’n rhy fuan i ddechrau sôn am y Nadolig?????

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English