Mae wedi cyrraedd pedwaredd wythnos y gwyliau, ac rydym wedi rhestru rhywbeth y gallwch ei wneud bob dydd. A, rhag ofn i dywydd yr haf eich gadael i lawr, maen nhw i gyd dan do!
Amgueddfa Anniben – 14 Awst
Mae Amgueddfa Wrecsam yn gwahodd plant rhwng 0 a 3 oed i ddod i greu teclyn symudol ci Acton. Bydd paentio, sticio a llawer o hwyl yn gwneud llanast! 10.30am-12pmm, pris £1. Ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 297460 i gael rhagor o wybodaeth.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Anifail-Ysbiwyr gyda’r Dogs Trust – 15 Awst
Dewch i Lyfrgell Brynteg a gwrando ar ‘The Mysterious Case of the Missing Honey’ a chyfarfod â’r ci achub Flo, yn y digwyddiad am ddim hwn i blant rhwng 7 ac 11 oed. 2-3pm. Ffoniwch 01978 759523 i archebu eich lle AM DDIM.
Afon Alyn Bach – 16 Awst
Dewch i Barc Gwledig Dyfroedd Alyn i greu golygfa danddwr. 1.30-3.30pm, £2.50 y plentyn. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978 763140.
Prynhawn Ffilmiau’r Haf – 17 Awst
Ffilm yr wythnos hon yw TROLLS, felly beth am alw heibio Canolfan Adnoddau Gwersyllt am 2pm a chael diod a phopgorn am ddim ond £1! Ffoniwch 01978 722880 i gael rhagor o fanylion.
Crefft a Stori (tylluanod) – 18 Awst
Gwahoddir plant rhwng 5 a 12 oed i ddod am stori ar thema tylluanod ac i greu crefft ar thema tylluanod, am ddim ond 50c! Ffoniwch 01978 292090 i gael rhagor o wybodaeth.
Tro nesaf: Arwyr a Phenblwyddi Hapus!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI