Mae wedi bod yn rhai misoedd prysur ers ein hymgyrch #Wrecsam2025 lle daethom at ein gilydd i Tŷ Pawb, a oedd dan ei sang, i weld lle fyddai’n cael ei ddyfarnu’n Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2025.
Yn anffodus ni ddaeth y teitl i ni ond yn hytrach fe aeth i Bradford, ac rydym yn siŵr y byddant yn sicrhau blwyddyn wych.
Un peth annisgwyl ar y noson oedd y cyhoeddiad y byddai pawb a ddaeth yn agos i’r brig yn derbyn £125,000 i barhau gyda’u taith ddiwylliannol.
Yn ystod ein taith rydym wedi dysgu llawer am Wrecsam, diwylliant Wrecsam, a sut y gellir defnyddio diwylliant er budd pawb yn ein cymuned – felly roeddem yn awyddus i gyhoeddi y byddwn yn rhoi cynnig ar ddod yn Ddinas Diwylliant ar gyfer 2029.
Ein nod yw i roi cymunedau yng nghanol ein cynnig unwaith eto ar gyfer #Wrecsam2029 drwy gyd-greu gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol yn dangos tirwedd unigryw ac amrywiol y Fwrdeistref Sirol a dathlu ein taith ddiwylliannol a’n huchelgeisiau mentrus.
Elfen bwysig o’n cynnig ar gyfer 2025 oedd dyfarnu Comisiynau Cymunedol o hyd at £1000 ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a oedd yn dangos cefnogaeth gadarnhaol ar gyfer ein cynnig.
Dosbarthwyd 53 o grantiau bach i fusnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector a ddarparodd ystod eang o brosiectau i gefnogi ein cynnig rhwng misoedd Ionawr a Mai 2022. Roedd hyn yn ei dro yn annog ystod eang o bobl o bob cwr o’r Fwrdeistref Sirol i ymgysylltu gyda a theimlo balchder yn ein huchelgais ar y cyd i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU.
Fel rhan o’n gwaith i ddatblygu’r byd diwylliannol yn Wrecsam rydym unwaith eto yn gwahodd grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau’r trydydd sector i ymgeisio am grant i ddarparu gweithgarwch diwylliannol yn y sir.
Y tro hwn mae yna 8 grant ar gael sy’n £5000 yr un i gyflawni prosiect, cynnal digwyddiad neu weithgaredd sy’n cyfrannu at greu gwaddol cynaliadwy a pharhaus. Mae hyn yn unol â’n strategaeth ddiwylliannol ar gyfer 2029, sef i gynnal Mis o Ddiwylliant yn 2023, Tymor o Ddiwylliant yn 2025 a rhaglen ddiwylliannol ar gyfer 2027 (yn ddibynnol ar ganlyniad y cynnig).
Rydym yn croesawu ceisiadau i gynnal digwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau cyn 31 Mawrth 2023 a fydd yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r cynnig, tra’n dangos Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel cyrchfan ddiwylliannol arbennig. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau ar draws y sir, yn amrywio o Ganol Dinas Wrecsam i fryniau’r Mwynglawdd a Dyffrynnoedd Glyn Ceiriog.
*Fe fyddwn hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam i ddosbarthu £10,000 i sefydliadau llai sy’n dymuno cynnig am hyd at £1000 i gynnal gweithgaredd/prosiect – fe allwch ddarganfod mwy drwy ymweld â’u gwefan
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Diwylliant ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae pwrpas cystadlu yn y gystadleuaeth Dinas Diwylliant unwaith eto yn ddeublyg. Fe fydd y gystadleuaeth yn rhoi ffocws i ni fel cymuned wrth i ni fynd ati i ddatblygu, hyrwyddo ac arddangos ein cymysgedd unigryw o ddiwylliant a threftadaeth i’n cynulleidfa leol a’n cynulleidfa ryngwladol sy’n tyfu. Wrth ddatblygu a chefnogi ein sector diwylliannol amrywiol dros y blynyddoedd nesaf, fe fyddwn mewn sefyllfa wych i ddod yn rhanbarth gynnal ar gyfer Dinas Diwylliant 2029 gan ddod â’r manteision a gwobrwyon amrywiol a ddaw gyda’r teitl mawreddog. Fe fydd y grantiau hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i’r sector diwylliannol yn Wrecsam, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd yn cael ei gynhyrchu.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Wrth edrych yn ôl ar ymgyrch Dinas Diwylliant 2025 mae’n anodd meddwl am adeg arall pan oedd cymaint o sefydliadau cymunedol ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd mor agos i gyflawni’r un nod. “Rydym eisiau ailadrodd ac adeiladu ar y gwaith gwych y gwnaeth ein cymuned yn Wrecsam wrth i ni fynd ati i gefnogi a chynyddu ein cynnig diwylliannol. Mis diwethaf, ddaethom yn Ddinas yn swyddogol, rwy’n meddwl fod hyn wir yn dangos yr uchelgais sydd gennym ni ar gyfer Wrecsam. Oni fyddai’n wych pe gallem ni yn 2029 alw Wrecsam hefyd yn Ddinas Diwylliant y DU.
Yn ysbryd ‘Fe godwn gyda’n gilydd’, rydym yn awyddus i weld y cydweithio rhwng sefydliadau / grwpiau sefydledig a rhai sy’n datblygu.
Fe fydd y comisiynau yn cael eu gweinyddu gan y tîm Dinas Diwylliant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd panel yn penderfynu ar ddyraniad y comisiynau. Fe ellir anfon ymholiadau yn ymwneud â’r comisiwn at wrecsam2029@wrexham.gov.uk.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu cwblhau drwy e-bost at wrecsam2029@wrexham.gov.uk ddim hwyrach na 23:59pm Dydd Mawrth 25ain Hydref.
Mi fydd y ceisiadau llwyddiannus yn cael ei hysbysu drwy e bost yr wythnos yn dechrau 31ain Hydref
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol, busnes neu grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydledig, a dylai fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad neu dylai fod â sefydliad cynnal sy’n barod i dderbyn yr arian ar ei ran (ni chaiff taliadau eu gwneud i unigolion). Ni chaiff ceisiadau gan unigolion eu derbyn.
Amcanion Ceisiadau:
Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o’r Amcanion Lleol canlynol:
- Hyrwyddo Wrecsam fel canolbwynt masnach a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru
- Dangos uchelgais Wrecsam i gynnal digwyddiadau a gweithgarwch o bwysigrwydd rhyngwladol
- Dathlu dyhead Wrecsam i fod yn ‘Brifddinas Chwarae’ y DU;
- Wrecsam fel cartref pêl-droed yng Nghymru;
- Dangos Wrecsam fel arweinydd mewn arloesedd;
- Pwyslais ar y Gymraeg a threftadaeth
- Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol
Rhaid i geisiadau ddangos costau rhesymol am weithgaredd / gwerth am arian, a rhaid cyfiawnhau unrhyw wariant mewn perthynas â’r holl gostau.
I gael ffurflen gais anfonwch e-bost at wrecsam2029@wrexham.gov.uk os gwelwch yn dda.