Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein bod ni’n cael £500,000 i barhau i fynd i’r afael ag eiddo gwag yn ninas Wrecsam, drwy raglen fenthyciadau Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy’n ceisio gwella a rhoi pwrpas newydd i eiddo a lleihau nifer yr eiddo gwag.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ymestyn y cynllun benthyciadau sydd ar gael ar gyfer eiddo yng nghanol y ddinas, er mwyn gwella a rhoi pwrpas newydd i eiddo a lleihau nifer yr eiddo gwag.
Mae’r benthyciadau yn cael eu rhoi ar gyfer adeiladau a datblygiadau allweddol yng nghanol dinas Wrecsam, ac mae hyd at £500,000 (50% o’r costau) ar gael i helpu i gaffael a gwella eiddo.
Gellir defnyddio’r benthyciadau i brynu, adnewyddu, addasu neu ailddatblygu eiddo, yn amodol ar ganiatâd cynllunio neu unrhyw ganiatâd angenrheidiol arall.
“Cefnogi nifer o eiddo gwag”
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Dyma newyddion gwych i ganol y ddinas a bydd yn cefnogi nifer o eiddo gwag i gael eu hailwampio a’u hailfedyddio, gan ddarparu swyddi i bobl leol a rhoi hwb i’r economi leol. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r llywodraeth am eu cefnogaeth barhaus i Wrecsam.”
Am ragor o fanylion ac i weld a ydych chi’n gymwys i gael benthyciad, ewch i’n gwefan.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Coed i’w plannu yng nghanol y ddinas yn rhan o waith gwella