Mae cyfle newydd cyffrous am gyllid bellach ar gael trwy Gronfa Allweddol Digwyddiadau Canol y Ddinas UKSPF i gynnal digwyddiadau yng Nghanol Dinas Wrecsam.
Mae hon yn un o chwe Chronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael yn Wrecsam. Darperir cyllid ar gyfer y grant gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Pwrpas y grant hwn yw cyfrannu at yr amcanion a nodir yn ein Cynllun Creu Lleoedd – sef gwella canol Wrecsam ac annog pobl i ail-ddychmygu a dylanwadu ar sut y dylai edrych, teimlo, a gweithredu.
Mae’r uchelgais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, gyda’r cais yn barod i’w gyflwyno yn 2025, yn golygu bod y blynyddoedd nesaf yn gyfnod tyngedfennol ar gyfer siapio canol Wrecsam. Fel rhan o’r uchelgais hwn, rydym am annog digwyddiadau ar raddfa fawr ac o ansawdd uchel sy’n cyfrannu at ddatblygu’r economi.
Mae cyfanswm o £55,000 bellach ar gael i wneud cais amdano; er mwyn cynnal digwyddiadau unigryw sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas a chael effaith ar y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r grantiau canlynol ar gael:
- 3 x grant o £10,000
- 5 x grant o £5000
Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol, busnesau, a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am y grantiau hyn i ddarparu gweithgarwch diwylliannol i’w cynnal yng Nghanol Dinas Wrecsam cyn 31 Hydref, 2024.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol, busnes neu grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydledig, a dylai fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad neu dylai fod â sefydliad cynnal sy’n barod i dderbyn yr arian ar eich rhan.
Amcanion Ceisiadau ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas
Rhaid i geisiadau am gyllid Digwyddiadau Canol y Ddinas fodloni’r meini prawf craidd canlynol:
- Dangos y gallu i gasglu / mesur ac adrodd yn gywir ar allbwn SPF gorfodol o ran cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod y digwyddiad a chyfrannu at gyflawni allbynnau a chanlyniadau SPF ehangach o fewn ffiniau canol y ddinas fel yr amlinellir yn y Cynllun Creu Lleoedd.
- Dangos bod y digwyddiad yn ychwanegu rhywbeth o werth uchel at y gymuned leol, gan ychwanegu rhywbeth newydd a gwahanol at yr arlwy ddiwylliannol bresennol
- Dangos bod cyllid SPF yn ofynnol er mwyn galluogi’r digwyddiad neu weithgaredd hwn i fynd yn ei flaen
- Rhaid i’r holl hyrwyddo a marchnata sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd ddangos bod cefnogaeth ariannol wedi’i darparu trwy SPF gan gynnwys y logo ‘Ffyniant Bro’, a chefnogaeth i gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 trwy gynnwys logo’r ymgyrch.
- Rhaid cynnal digwyddiadau a rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref, 2024
- Telir y grant yn ôl-weithredol felly bydd angen i’ch sefydliad dalu’r costau angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect cyn hawlio’r grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gellir cyflwyno hawliadau interim am wariant cyn i’r digwyddiad / gweithgaredd gael ei gwblhau.
Mae rhagor o wybodaeth am amcanion a meini prawf y gronfa ar gael yma. I wneud cais, rhaid i chi greu cyfrif FyWrecsam neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli eisoes i gychwyn y cais.
Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 31 Mawrth 2024, a rhaid i’r holl ddigwyddiadau gael eu cynnal cyn 31 Hydref 2024.
Efallai yr hoffech chi ddarllen Digwyddiad Lansio Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 gyda Sian Hughes