Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwerth £55,000 o Gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwerth £55,000 o Gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas
Y cyngorPobl a lle

Gwerth £55,000 o Gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 12, 2024 1:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Shopping in Wrexham
RHANNU

Mae cyfle newydd cyffrous am gyllid bellach ar gael trwy Gronfa Allweddol Digwyddiadau Canol y Ddinas UKSPF i gynnal digwyddiadau yng Nghanol Dinas Wrecsam.

Mae hon yn un o chwe Chronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael yn Wrecsam. Darperir cyllid ar gyfer y grant gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Pwrpas y grant hwn yw cyfrannu at yr amcanion a nodir yn ein Cynllun Creu Lleoedd – sef gwella canol Wrecsam ac annog pobl i ail-ddychmygu a dylanwadu ar sut y dylai edrych, teimlo, a gweithredu. 

Mae’r uchelgais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, gyda’r cais yn barod i’w gyflwyno yn 2025, yn golygu bod y blynyddoedd nesaf yn gyfnod tyngedfennol ar gyfer siapio canol Wrecsam. Fel rhan o’r uchelgais hwn, rydym am annog digwyddiadau ar raddfa fawr ac o ansawdd uchel sy’n cyfrannu at ddatblygu’r economi.

Mae cyfanswm o £55,000 bellach ar gael i wneud cais amdano; er mwyn cynnal digwyddiadau unigryw sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas a chael effaith ar y Fwrdeistref Sirol. 

Mae’r grantiau canlynol ar gael:

  • 3 x grant o £10,000
  • 5 x grant o £5000

Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol, busnesau, a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am y grantiau hyn i ddarparu gweithgarwch diwylliannol i’w cynnal yng Nghanol Dinas Wrecsam cyn 31 Hydref, 2024.

I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol, busnes neu grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydledig, a dylai fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad neu dylai fod â sefydliad cynnal sy’n barod i dderbyn yr arian ar eich rhan.

Amcanion Ceisiadau ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas

Rhaid i geisiadau am gyllid Digwyddiadau Canol y Ddinas fodloni’r meini prawf craidd canlynol:

  • Dangos y gallu i gasglu / mesur ac adrodd yn gywir ar allbwn SPF gorfodol o ran cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod y digwyddiad a chyfrannu at gyflawni allbynnau a chanlyniadau SPF ehangach o fewn ffiniau canol y ddinas fel yr amlinellir yn y Cynllun Creu Lleoedd.
  • Dangos bod y digwyddiad yn ychwanegu rhywbeth o werth uchel at y gymuned leol, gan ychwanegu rhywbeth newydd a gwahanol at yr arlwy ddiwylliannol bresennol
  • Dangos bod cyllid SPF yn ofynnol er mwyn galluogi’r digwyddiad neu weithgaredd hwn i fynd yn ei flaen 
  • Rhaid i’r holl hyrwyddo a marchnata sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd ddangos bod cefnogaeth ariannol wedi’i darparu trwy SPF gan gynnwys y logo ‘Ffyniant Bro’, a chefnogaeth i gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 trwy gynnwys logo’r ymgyrch.
  • Rhaid cynnal digwyddiadau a rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref, 2024
  • Telir y grant yn ôl-weithredol felly bydd angen i’ch sefydliad dalu’r costau angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect cyn hawlio’r grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Gellir cyflwyno hawliadau interim am wariant cyn i’r digwyddiad / gweithgaredd gael ei gwblhau.

Mae rhagor o wybodaeth am amcanion a meini prawf y gronfa ar gael yma. I wneud cais, rhaid i chi greu cyfrif FyWrecsam neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli eisoes i gychwyn y cais.

Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 31 Mawrth 2024, a rhaid i’r holl ddigwyddiadau gael eu cynnal cyn 31 Hydref 2024.

Efallai yr hoffech chi ddarllen Digwyddiad Lansio Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 gyda Sian Hughes

Rhannu
Erthygl flaenorol Esgid redeg wen ar dir mwdlyd Dyfroedd Alun 5k a 10k: Heriwch eich hun a chefnogwch achos lleol!
Erthygl nesaf ty pawb Tŷ Pawb – Gwyliau’r Pasg 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English