Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen £57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > £57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian
Y cyngor

£57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 20, 2022 1:00 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
£57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian
RHANNU

Collwyd mwy na £57 miliwn y llynedd o ganlyniad i sgamiau lle twyllwyd y dioddefwyr i roi’r rheolaeth dros eu cyfrifiadur neu ffôn clyfar i droseddwyr.

Cynnwys
  • Beth yw twyll cysylltu-o-bell?
  • Troseddwyr yn esgus bod yn fusnesau dilys
  • Sut i’ch amddiffyn eich hun rhag sgamiau o bell

Cyhoeddwyd y ffigwr hwn gan Action Fraud, y ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu. Mae’n dangos bod mwy nag 20,000 o bobl wedi dioddef o’r sgamiau hyn ar ôl cael eu hannog i alluogi troseddwyr i gysylltu â’u dyfais o bell.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Beth yw twyll cysylltu-o-bell?

Bydd sgamiau offeryn cysylltu-o-bell yn dechrau’n aml gyda ffenestr naid yn ymddangos ar eich porwr yn dweud bod feirws ar eich cyfrifiadur, neu alwad ffôn gan rywun yn honni eu bod o’r banc yn dweud eu bod angen cysylltu â’ch cyfrifiadur er mwyn diddymu trafodiad twyllodrus ar eich cyfrif.

Yna, bydd y troseddwyr yn ceisio annog y dioddefwr i lawrlwytho a chysylltu drwy offeryn cysylltu-o-bell, sy’n caniatáu’r troseddwr i gael mynediad i gyfrifiadur neu ffôn symudol y dioddefwr. Os yw’r dioddefwr yn caniatáu i’r troseddwr gysylltu drwy’r offeryn, gall ddwyn arian a chael mynediad at wybodaeth fancio’r dioddefwr.

Troseddwyr yn esgus bod yn fusnesau dilys

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Gellir defnyddio offer cysylltu-o-bell yn ddiogel pan y’u defnyddir gan eich cyflogwr i ddatrys problem gyda’ch dyfais neu i osod meddalwedd newydd, er enghraifft. Fodd bynnag, mae troseddwyr yn cymryd arnynt eu bod yn fusnesau dilys er mwyn cael eich arian neu eich manylion, drwy ddweud bod problem gyda’ch cyfrif y gallent ei ddatrys.

“Os oes rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl neu os ydych yn derbyn rhybudd ar eich dyfais, gofynnwch i’ch hun bob amser “ai twyll yw hwn?” Ni fydd busnesau dilys fyth yn gofyn am gael cysylltu-o-bell â’ch dyfais. Edrychwch ar eu gwefan i weld yr hyn a ddywedant ynglŷn â chysylltu â chi, neu gofynnwch i aelod o’r teulu neu ffrind cyn gwneud unrhyw beth a fyddai’n rhoi eich arian a’ch manylion mewn perygl.”

Sut i’ch amddiffyn eich hun rhag sgamiau o bell

Os ydych yn credu bod feirws neu ryw fath arall o faleiswedd ar eich gliniadur, cyfrifiadur personol, llechen neu ffôn, dilynwch ganllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ar adfer dyfais wedi ei heintio.

  • Gosodwch feddalwedd neu roi caniatâd cysylltu-o-bell â’ch cyfrifiadur os yw rhywun yr ydych yn ei adnabod ac yr ydych yn ymddiried ynddo yn gofyn i chi yn unig – megis ffrind neu aelod o’r teulu. Peidiwch fyth â gwneud o ganlyniad i alwad ffôn digymell, ffenestr naid ar borwr, na neges testun.
  • Cofiwch na fyddai banc na darparwr gwasanaeth fyth yn cysylltu â chi’n annisgwyl yn gofyn am gael cysylltu-o-bell â’ch dyfais.
  • Os ydych yn credu bod feirws neu ryw fath arall o faleiswedd ar eich gliniadur, cyfrifiadur personol, llechen neu ffôn, dilynwch ganllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
  • Diogelwch eich arian drwy gysylltu â’ch banc ar unwaith ar ddyfais wahanol i’r un y cysylltodd y sgamiwr arni.
  • Rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 2040.

Y mae Action Fraud yn cynghori hefyd y dylai’r cyhoedd ddilyn cyngor ymgyrch ‘Take Five to Stop Fraud’ i gadw’u hunain yn ddiogel rhag twyll.

  • Stopio: Gall treulio munud neu ddau i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n ddiogel.
  • Herio: A allai fod yn ffug? Mae’n iawn i chi wrthod neu anwybyddu unrhyw gynigion. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.
  • Amddiffyn: Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a rhowch wybod i Action Fraud ar-lein drwy (DOLEN) neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Can you help? Fedrwch chi helpu gyda’n hymchwil?
Erthygl nesaf key cities Arddangosfa Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd ar ddangos

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English