Rydym i gyd yn gwybod bod llawer o bethau gwych am lyfrgelloedd, ac mae pobl o bob cwr o Gymru wedi bod yn cymryd mantais o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig!
Dyma chwe ystadegyn, sydd wedi’u cyhoeddi gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) am bobl sydd wedi defnyddio llyfrgelloedd rhwng 2011 a 2016:
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
- Mae dros 10 miliwn o lyfrau wedi’u benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru
- Mae 46% o bobl yng Nghymru yn defnyddio eu llyfrgell
- Mae dros 3.7 miliwn o ymholiadau wedi’u hateb gan staff llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru
- Mae 51% o bobl ifanc rhwng 15 a 24 oed yng Nghymru yn defnyddio eu llyfrgell
- Gwnaed 13,428,276 o ymweliadau i lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, sydd gyfwerth â llenwi Stadiwm y Principality mwy na 180 o weithiau
- Defnyddiodd pobl Cymru fwy na 1.5 miliwn awr o fynediad i gyfrifiaduron am ddim mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.
- Felly, os nad ydych wedi bod i’ch llyfrgell yn ddiweddar, beth am alw i mewn!Galwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i dudalennau llyfrgell y cyngor yma.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI