Bydd pennod gyntaf ‘Live in the Window’ yn ffrydio’n fyw ar Youtube yfory, 2 Rhagfyr rhwng 4pm a 7pm, a bydd fersiwn podlediad sain ar gael ddydd Llun.
Bydd y sioe, dan arweiniad Robert Corcoran a James Stevens, yn cynnwys gwesteion, heriau a thrafodaethau mewn perthynas â diwylliant Wrecsam.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
“Yn gynharach eleni, eisteddais mewn ffenestr siop yng nghanol y dref, a gwyliais ffilm Ryan Reynolds, Green Lantern, 100 o weithiau. Roedd yn rhyfedd iawn, ond roedd pobl yn ei hoffi! Felly roeddwn yn awyddus i archwilio fformat tebyg – sioe sgwrsio byw llawn hwyl a gemau yn Wrecsam – lle gall pawb gymryd rhan yn bersonol neu ar-lein.” – Robert Corcoran.
Cynhelir y sioe yn fyw yn 16 Stryt Yorke. Mae croeso i westeion ddod draw i wylio’r sioe a chael cyfle i droi’r olwyn ffawd enfawr.
Bydd yr olwyn, sydd wedi cael ei hadeiladu a’i pheintio gan artistiaid lleol, yn caniatáu i westeion ddewis cwestiynau ac ennill gwobrau. Bob wythnos, bydd elusen leol a enwebwyd yn cael ei dewis, ac os bydd yr olwyn yn glanio ar eu hadran nhw, byddant yn derbyn cyfraniad.
Bydd y sioe’n cael ei ffrydio ar Sianel Youtube 73 Degree Films a bydd fersiwn podlediad ar gael ddydd Llun ar bob un o’r platfformau podlediad (Spotify, Apple, Amazon + mwy).
Mae’r sioe wedi derbyn cefnogaeth swyddogol gan Gyngor Wrecsam, drwy’r comisiynau diwylliannol ar gyfer Wrecsam 2029 (mae cyllid ar gyfer y prosiectau hyn yn deillio o’r wobr £125,000 a ddyfarnwyd i’r rhai a oedd y ail yng nghais 2025).
“Rydym yn edrych ymlaen at ddangos pa mor wych yw Diwylliant Wrecsam mewn ffordd newydd a hwyliog! Os hoffech chi gysylltu â ni, cymryd rhan yn y sioe, noddi rhai o’r gwobrau neu gymryd rhan mewn unrhyw ffordd arall, anfonwch e-bost neu neges at 73 Degree Films.” – Robert Corcoran
Tanysgrifiwch i’r Sianel YouTube.
E-bost: contact@73degreefilms.com
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI