Gall treulio pythefnos adref deimlo fel amser hir iawn, yn enwedig os nad oes gennych chi unrhyw beth i ddiddanu’r plant. Ond, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn darparu gwybodaeth i chi am weithgareddau gwych.
Felly, ewch i nôl eich dyddiadur…. Beth am ddechrau efo 8 peth y gallwch chi ei wneud am ddim?
Dydd Llun, 26 Mawrth – Campfa i’r Ifanc. Gall bobl ifanc 11-15 oed ddechrau’r wythnos drwy gadw’n heini gyda sesiwn yng nghampfa Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans. 4-5pm. Ffoniwch 01978 269540.
Dydd Mawrth, 27 Mawrth – Llwybr Cwningen y Pasg. Cychwynnwch o Safle’r Seindorf ym Mharc Bellevue ac ewch am dro o gwmpas y parc ar hyd llwybr y Pasg. 10am-12pm. Ffoniwch 01978 763140.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Dydd Mercher, 28 Mawrth – Chwaraeon a Gemau. Gall plant 8-14 oed ddod draw i Barc Bellevue rhwng 1pm a 3pm i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwaraeon. Ffoniwch 01978 298997.
Dydd Iau,29 Mawrth – Sesiynau Hwyl. Dewch draw i Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun i fwynhau sesiwn llawn hwyl yn y pwll. 10-11am. Ffoniwch 01691 778666.
Dydd Llun, 2 Ebrill – Agoriad Swyddogol Tŷ Pawb. Dewch i ddathlu agoriad swyddogol canolfan gelfyddydau newydd Wrecsam, gyda gorymdaith o Stryt yr Hôb i Stryt Caer. Mi fydd yna hefyd gerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd, stondinau bwyd, côr, ffair bach, band pres, lle chwarae i blant ac arddangosfa dân gwyllt i goroni’r cyfan. Ffoniwch 01978 292093.
Dydd Mawrth, 3 Ebrill – Sesiwn Stori’r Pasg. Straeon, caneuon a rhigymau i blant dan 5 yn Llyfrgell Wrecsam o 2pm tan 2.30pm. Ffoniwch 01978 292090.
Dydd Mercher, 4 Ebrill – Stori a Chân y Pasg. Straeon, caneuon a rhigymau dwyieithog i blant dan 5. 10-10.30am. Ffoniwch 01978 292090.
Dydd Gwener, 6 Ebrill – Nofio am ddim. Ewch i nôl eich cerdyn hamdden a dewch i nofio yn rhad ac am ddim yn y Byd Dŵr o 2pm tan 3pm. Ffoniwch 01978 297300.
Cofiwch ddod yn ôl i weld a oes mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau’r Pasg wedi eu hychwanegu.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU