Gyda’r gwyliau yn nesáu, bydd rhieni a gofalwyr yn ceisio meddwl am ffyrdd newydd i ddifyrru plant.
Mae’n hawdd anghofio am yr holl bethau gwych ar eich carreg drws, felly dyma 8 o bethau hwyliog i’w gwneud gyda’ch plant yr haf hwn.
Ac maent i gyd am ddim. Canlyniad!
CEWCH NEWYDDION CYFLYM A GWYBODAETH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
1. Amgueddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae’r amgueddfa yn lle gwych i blant ac mae’n cael digon o adolygidau 5-seren gan rieni hapus.
Dilynwch dudalen Facebook yr amgueddfa.
2. Parc Gwledig Tŷ Mawr
O fewn tafliad carreg i Draphont Ddŵr Pontcysyllte, mae’r parc gwledig bendigedig hwn yn cynnig llawer o hwyl awyr agored – gan gynnwys anifeiliaid, cae chwarae a theithiau cerdded a safleoedd picnic.
3. Diwrnod Chwarae Wrecsam
Pwll tywod enfawr, chwaraeon dŵr, chwarae gyda sothach a siglo ar y rhaffau. Mae o ’mlaen!
Bydd Wrecsam yn dathlu Diwrnod Chwarae Cyhoeddus ddydd Mercher, 2 Awst.
4. Parc Gwledig Dyfroedd Alyn
Parc gwledig gwych arall lle gall plant losgi egni, profi natur a chael hwyl.
5. Llyfrgell Wrecsam
Mae plant yn caru llyfrau. Felly gall ymweliad â’ch llyfrgell leol fod yr ateb perffaith.
Mae hefyd yn lle gwych i wneud gwaith cartref a phrosiectau’r haf yn ystod gwyliau’r ysgol.
6. Hyfforddiant tennis am ddim yn Bellevue
Mae yna lawer yn digwydd ym Mhark Bellevue yr haf hwn, gan gynnwys hyfforddiant tennis am ddim ar ddydd Iau, 3 Awst.
7. Clwb ffilm yn y Stiwt
Allwch chi ddim curo hud y ffilmiau. Ewch i’r clwb ffilm i blant a phobl ifanc yn Theatr y Stiwt Rhos.
8. Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant
Archwiliwch y teithiau cerdded yn y coetir cyfagos, cysylltwch â natur a mwynhau’r amrywiol weithgareddau sy’n gyfeillgar i blant ym Melin y Nant.
Wrth gwrs, mae yna bob amser y siawns y gall rhywbeth newid – gall gweithgaredd gael ei ganslo, ei ohirio neu ei symud, er enghraifft.
Felly os ydych angen tawelwch meddwl, mae’n syniad da i gysylltu â’r lleoliad neu drefnwyr cyn cychwyn.
Cewch newyddion cyflym a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRU