Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bobl ifanc – dewch o hyd i’ch llais, eich dylanwad a’ch lle mewn cymdeithas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bobl ifanc – dewch o hyd i’ch llais, eich dylanwad a’ch lle mewn cymdeithas
Pobl a lleY cyngor

Bobl ifanc – dewch o hyd i’ch llais, eich dylanwad a’ch lle mewn cymdeithas

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 29, 2018 8:56 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Young People WREXHAM voice society
RHANNU

Mae’r blog hwn yn un o nifer y byddwn ni’n eu cyhoeddi yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018

Cynnwys
  • Ymdeimlad o ryddid a diogelwch
  • Ble mae hyn yn digwydd?
  • Meic Agored

Yn ein blog olaf i hybu gwasanaethau ieuenctid yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, heddiw, rydyn ni’n canolbwyntio ar waith ieuenctid yn y gymuned. Bydd y tîm yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn 30 Mehefin, felly fe gewch chi gyfle i’w cyfarfod er mwyn iddynt allu sôn wrthoch chi am eu gwaith arbennig.

Felly, i gychwyn, beth ydi gwaith ieuenctid?

Yn yr ystyr fwyaf cyffredinol, gwaith ieuenctid ydi gweithio gyda phobl ifanc a’u cefnogi gyda’u datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Gall hyn eu galluogi nhw i ddod o hyd i’w llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Ymdeimlad o ryddid a diogelwch

Mae gwaith ieuenctid cymunedol yn rhoi teimlad o ryddid a diogelwch i bobl ifanc. Mae hyn yn eu galluogi i gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd, eu mynegi eu hunain yn well a phrofi pethau newydd y tu allan i’r ysgol.

Mae’r gweithwyr yn cefnogi pobl ifanc drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ac yn dod â nhw’n nes at eu cymunedau lleol.

Ble mae hyn yn digwydd?

Gall hyn ddigwydd mewn clybiau ieuenctid traddodiadol yn ogystal â mannau a safleoedd mwy pwrpasol o fewn cymunedau lleol.

Mae gwaith ieuenctid yn y gymuned yn dechrau lle mae yno bobl ifanc ac mae’n deillio o ymgysylltu gwirfoddol rhwng pobl ifanc a staff.

Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, ond mae gwaith ieuenctid yn y gymuned yn canolbwyntio ar rai yn eu harddegau.

Mae Tîm Chwarae a Chymorth Ieuenctid Wrecsam yn gwneud gwaith ieuenctid mewn sawl cymuned leol, fel Brymbo, Tan-y-fron, Bwlch-gwyn, Mwynglawdd, Coed-poeth, Llai, Rhiwabon, Bradle a Brynteg.

Mae peth o’r gwaith yn cael ei ariannu gan Gynghorau Cymuned yn rhan o’u hymrwymiad i’w cymunedau a’u pobl ifanc. Mae Cyngor Wrecsam hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill fel partneriaeth Parc Caia i gefnogi cyfleoedd gwaith ieuenctid o amgylch canol y dref.

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at youthservice@wrexham.gov.uk neu ewch i youngwrexham.co.uk/cy.

Bydd nifer o wasanaethau eraill yn hybu eu gwaith hefyd, gyda llwyth o weithgareddau hwyliog ac anffurfiol i’w gwneud.

Meic Agored

Un o’r digwyddiadau hyn ydi sesiwn meic agored yn cychwyn am 1pm ac wedyn am 3pm cewch glywed Luke Gallagher yn perfformio cerddoriaeth fyw.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gallwch ailgylchu hwnna... Gallwch ailgylchu hwnna…
Erthygl nesaf Dewch i ddarganfod mwy am llwybrau cerdded a beicio gwell yn Wrecsam Dewch i ddarganfod mwy am llwybrau cerdded a beicio gwell yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English