Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth ddigwyddodd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Beth ddigwyddodd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe?
Busnes ac addysgY cyngor

Beth ddigwyddodd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 12, 2018 11:03 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Children's Services
RHANNU

Beth ddigwyddodd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe?

Cyfarfu ein Bwrdd Gweithredol ddoe, gan gytuno, nodi neu gymeradwyo nifer o eitemau busnes.

Mae’n bosibl eich bod eisoes wedi gweld eu bod wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg newydd â lle i 210 o ddisgyblion ym Morras  ac i ymgynghori ar gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Bro Alun yn barhaol.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Gwnaethant hefyd gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, sy’n rhoi darlun clir i chi, y cyhoedd, am sut hwyl mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam yn ei gael. Mae’n adroddiad sy’n gyfeillgar iawn i ddefnyddwyr ac os hoffech ei weld, gallwch gael mynediad iddo yma (dolen).

Cafodd y Cytundeb Llywodraethu a Chynnig Twf Gogledd Cymru eu cymeradwyo a byddant yn mynd i’r Cyngor llawn ddydd Iau i gael eu cymeradwyo.

Cafodd Aelodau ddiweddariad hefyd ar Raglen Gyfalaf dreigl pum mlynedd y cyngor, sy’n nodi’r cynlluniau cyfalaf yn y Fwrdeistref Sirol.

Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd cyfanswm y gwariant cyfalaf yn £67m ac roedd tua £49m ohono yn mynd tuag at wella tai. Bwriedir gwario tua £71m yn gyffredinol eleni, gyda £50m wedi’i neilltuo ar gyfer tai.

Bydd cynnydd o ran cyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl o £1.3m ac ar gyfer gwella effeithlonrwydd ein goleuadau stryd.

Mae gwelliannau a gwaith ailwampio i’n hysgolion, pontydd a ffyrdd hefyd. Mae’r rhestr yn rhy hir i’w rhoi yma, felly efallai byddwch am edrych arni eich hun yma .

Roedd adroddiadau eraill yn cynnwys adroddiad Rheoli Trysorlys ac adroddiad Perfformiad Chwarter 4; a’r Nodyn Canllawiau Cynllunio Lleol wedi’i Ddiweddaru ar barcio, a fabwysiadwyd ac mae bellach yn darparu canllawiau gwell i ymgeiswyr cynllunio, datblygwyr a phenseiri ar safonau parcio uchaf a fydd yn berthnasol i gynigion am Dai Amlfeddiannaeth.

Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bob mis ac anogir aelodau’r cyhoedd i fynychu.

Gallwch weld gweddarllediadau o’r cyfarfodydd yma.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth yw hyn yn union? Beth yw hyn yn union?
Erthygl nesaf Gwasanaeth Coffa Blynyddol Gwasanaeth Coffa Blynyddol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English