Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid?
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid?

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/04 at 10:23 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid?
RHANNU

Efallai eich bod wedi clywed ein bod am wella Gwasanaethau Dydd a Chyflogaeth ein Gwasanaethau  Anableddau.

Cynnwys
Pam bod angen i bethau newid?Beth yw’r gwasanaethau hyn?Sut fydd pethau’n newid?Sut byddwch yn helpu pobl drwy’r broses? “Byddwn yn gwneud popeth posib i helpu pobl drwy’r broses”

Rydym eisoes wedi gwneud peth gwaith ymgynghori, ac mae ychydig o newyddion o’r ymgynghoriadau yma wedi bod yn y wasg.

Efallai eich bod yn pendroni pam fod angen unrhyw newidiadau, a beth fydd y newidiadau’n eu golygu i’r bobl sy’n ymwneud â’r gwasanaethau hynny ac unrhyw un a all fod arnynt eu hangen yn y dyfodol.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Dydd Mawrth, 9 Hydref bydd ein Bwrdd Gweithredol yn edrych ar sut rydym yn credu y gallwn wneud newidiadau er mwyn gwella’n gwasanaethau a sicrhau eu bod yn barod at y dyfodol.

Pam bod angen i bethau newid?

Mae’r ffordd y mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol weithio gyda phobl yn newid. Mae’r gyfraith wedi newid, sy’n golygu bod angen gweithio gan ganolbwyntio ar wella lles unigolion, adeiladu ar gryfderau pobl ac adeiladu cymunedau cryf a chefnogol.

Bydd angen newid y ffordd mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig cefnogaeth er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, ac yn hyblyg.

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl i helpu i hyrwyddo eu hannibyniaeth o fewn eu cartrefi eu hunain a gyda chymunedau ble mae hynny’n bosib, er mwyn sicrhau y gall pobl ddefnyddio eu gallu yn llawn. Bydd angen i ni ganolbwyntio ar atal yr angen am wasanaethau, gan ddatblygu mwy o gymorth yn y gymuned, gan y gymuned.

Bwriad Gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith y Gwasanaeth Anableddau erioed fu helpu unigolion i adeiladu eu sgiliau a’u hyder, ac yna i symud ymlaen i gyfleoedd eraill unwaith maent yn ddigon hyderus.

Oherwydd yr angen i ganolbwyntio ar waith rhedeg dydd i ddydd y prosiectau busnes mae peth o’r cymorth sydd ei angen ar bobl wedi bod yn anodd ei weithredu. O ganlyniad, mae rhai pobl wedi bod yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi bod yn anodd cynnig y gwasanaethau wedi eu personoli y mae ar bobl eraill eu heisiau.

Mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol edrych ar sut gall ddiwallu anghenion unigolion mae’n ei gefnogi ar hyn o bryd ond rhaid hefyd ystyried y bobl y bydd arnynt angen gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r nifer o bobl y byddwn yn darparu ar eu cyfer yn cynyddu ac mae hyn yn mynd i barhau.

Yn syml – os na fyddwn ni yn moderneiddio’r gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith, mae risg y bydd unigolion yn derbyn cymorth mewn ffordd nad yw’n eu cynorthwyo i wneud beth maent eisiau ei wneud ac i gyflawni eu llawn botensial, ac mae’n bosib na fydd eraill yn gallu derbyn cefnogaeth.

Beth yw’r gwasanaethau hyn?

Gwasanaeth oes yw’r Gwasanaethau Anableddau ar gyfer plant ac oedolion sydd ag amrywiaeth o anableddau dysgu a chorfforol, a redir gan ein Hadran Gofal Cymdeithasol I Oedolion.

Mae’r help sy’n cael ei roi i bobl yn dod ar sawl ffurf, o denantiaethau byw â chymorth gyda darparwyr sy’n cael eu comisiynu gennym ni, Taliadau Uniongyrchol i ddefnyddwyr fel y gallant brynu eu cymorth eu hunain, neu adnoddau cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â ni.

Mae rhai pobl yn cael mynediad at y Gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith – amrywiaeth o brosiectau busnes gwahanol sy’n rhoi cyfle i bobl gael hyfforddiant ar gyfer y gweithle, a chyflogaeth. Maent wedi cynorthwyo rhai pobl i ddarganfod synnwyr o annibyniaeth a bodlonrwydd.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei rannu ar draws nifer o brosiectau gwahanol, gan gynnwys:

  • Le Cafe – caffi yng Nghanolfan Adnoddau Cunliffe, Rhosddu.
  • Coverall –  gwasanaeth golchi yn Rhosymedre
  • PAT – gwasanaeth profi teclynnau symudol ar gyfer busnesau
  • Gwasanaeth y caffi ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun

Sut fydd pethau’n newid?

Bydd y busnesau yn Le Cafe, Coverall a PAT yn cau a byddwn yn dod o hyd i sefydliad arall i redeg gwasanaeth y caffi ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Rydym wedi gweithio gydag unigolion, gofalwyr, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i gyd-gynhyrchu’r cynllun ar gyfer gwasanaeth y caffi yng Nghaffi Dyfroedd Alun a sut bydd yn diwallu anghenion pobl wrth symud tuag at y dyfodol.

Mae dull gweithredu ar y cyd / sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn bwysig iawn, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth a’u gofalwyr, pan fyddwn yn cynllunio unrhyw ddarpariaeth newydd. Bydd yn bwysig defnyddio’r dull hwn wrth i ni edrych ar sut bydd angen i’r gwasanaethau cymdeithasol wneud newidiadau wrth symud ymlaen.

Sut byddwch yn helpu pobl drwy’r broses?

Byddwn yn gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr er mwyn rheoli’r newidiadau.

Mae Gweithwyr Cefnogi yn gweithio’n agos gydag unigolion, eu teuluoedd, ac eiriolwyr ble bo’r angen, fel y gallant adnabod eu cryfderau a’u gallu a darganfod ffyrdd eraill i gyflawni eu canlyniadau. Bydd pobl yn cael eu cefnogi drwy unrhyw newidiadau, ac wedi i newidiadau ddigwydd yn cynnig sicrwydd parhad.

“Byddwn yn gwneud popeth posib i helpu pobl drwy’r broses”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn gwybod bod nifer fawr o bobl yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn, ac rydym am wneud popeth posib er mwyn ymyrryd cyn lleied â phosib ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

“Rydym yn teimlo bod angen ar gyfer y newidiadau hyn, ond er bod y cynigion eisoes wedi cael eu croesawu’n gynnes gan rai defnyddwyr gwasanaeth, mae eraill wedi mynegi pryderon ac rydym am weithio gyda nhw lle gallwn, er mwyn sicrhau ein bod yn ymyrryd cyn lleied â phosib.

“Nid adrefnu er mwyn adrefnu yn unig yw hyn – yn ogystal â newidiadau mewn deddfwriaeth o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, mae tystiolaeth gref bod demograffeg sy’n newid, fel mewn meysydd eraill o Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn mynd i olygu bod gwasanaethau yn wynebu mwy fyth o heriau yn y dyfodol, a thra mae’n rhaid sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn barod i wynebu’r gofynion, rhaid sicrhau hefyd bod unrhyw wasanaeth newydd yn cynnig dull gweithredu hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn gallu ymdrin ag anghenion pobl agored i niwed, anghenus.”

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybod rhywun sydd yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor? Gwybod rhywun sydd yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor?
Erthygl nesaf Community Living Service Job Profiad o weithio â phobl sydd angen cymorth? Profiad o reoli? Edrychwch ar y swydd hon…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English