Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llawer yn digwydd yn Llyfrgell Wrecsam ym mis Hydref!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Llawer yn digwydd yn Llyfrgell Wrecsam ym mis Hydref!
Busnes ac addysgPobl a lle

Llawer yn digwydd yn Llyfrgell Wrecsam ym mis Hydref!

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/03 at 12:07 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Llawer yn digwydd yn Llyfrgell Wrecsam ym mis Hydref!
RHANNU

Dysgu dros Ginio

Bydd Steve Grenter, Rheolwr y Gwasanaethau Treftadaeth, yn Amgueddfa Wrecsam yn darparu’r sesiwn Dysgu dros Ginio yn Llyfrgell Wrecsam y mis hwn, a bydd yn trafod hanes ac archeoleg Castell Holt, sydd wedi’i leoli ar lannau Afon Dyfrdwy ar ffin Cymru a Lloegr.  Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne a’i ŵyr, ieirll olynol Surrey, yn dilyn cwymp Llywelyn ap Gruffydd, tywysog Cymru.  Darganfyddwch fwy am y safle hanesyddol yma ddydd Mercher, 3 Hydref, 1-2pm.

Cynnwys
Dysgu dros GinioSioeau Teithiol Iechyd a LlesBydd yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Clare Mackintosh

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Sioeau Teithiol Iechyd a Lles

Mae nifer o ffactorau yn ein bywydau’n effeithio ar ein hiechyd, fel yr amgylchedd, cysylltiadau cymorth neu ddiffyg rhai, ble rydyn ni’n byw, ein harian neu ddiffyg arian, a’n ffordd o fyw.  Beth bynnag yw eich amgylchiadau, efallai y gallwn ni eich helpu i fod yn iach yn eich bywyd bob dydd.  I gael gwybod mwy, ewch i’n Sioeau Teithiol Iechyd a Lles yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mawrth 9 Hydref (drwy’r dydd), Llyfrgell Rhos ddydd Gwener 12 Hydref 10am-12pm a Llyfrgell Brynteg ddydd Gwener 12 Hydref, 12pm-6pm.  Bydd rhywbeth i bawb gyda stondinau gwybodaeth a gweithgareddau drwy gydol y dydd. Allwch chi fforddio peidio â dod iddyn nhw?

Bydd yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Clare Mackintosh

Bydd Llyfrgell Wrecsam yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd eleni gydag ymweliad gan un o awduron mwyaf poblogaidd y Sunday Times, Clare Mackintosh.  Treuliodd Clare Mackintosh ddeuddeng mlynedd yn yr heddlu, gan gynnwys amser yn yr adran ymchwilio i droseddau, ac fel cadlywydd trefn gyhoeddus. Gadawodd yr heddlu yn 2011 i weithio fel newyddiadurwr llawrydd ac ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol, ac mae hi rŵan yn ysgrifennu yn llawn amser.  Roedd ei nofel gyntaf, I Let You Go, yn un o ddeg gwerthwr gorau y Sunday Times am 12 wythnos, a’r nofel a werthodd gyflymaf gan awdur trosedd newydd yn 2015. Cafodd ei dewis ar gyfer y Richard and Judy Book Club a ‘Loose Books’ Loose Women ITV, ac mae wedi gwerthu mwy na miliwn o gopïau ledled y byd. Bydd Clare yn trafod ei llyfr diweddaraf Let Me Lie yn Llyfrgell Wrecsam ar 11 Hydref, 2018 am 7pm.  Mae tocynnau yn £5 yr un ac maent ar gael o’r llyfrgell neu ar-lein.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol GWYLIWCH: Helo gan Ian! GWYLIWCH: Helo gan Ian!
Erthygl nesaf Gall grwpiau chwaraeon ymgeisio am arian Gall grwpiau chwaraeon ymgeisio am arian

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English