Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!
ArallY cyngor

Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 30, 2018 10:04 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!
RHANNU

Mae’r clociau wedi troi ac rydym yn troi ein sylw at dywydd y gaeaf nawr 🙁 🙁

Cynnwys
  • “Graeanu neu beidio?”
  • “Helpu lle gallwch”

Fel bob amser, mae ein hadran yr Amgylchedd yn gobeithio am y gorau ond cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf o ran eira, rhew, gwyntoedd cryfion, neu beth bynnag a ddaw.

Rydym am sicrhau bod yr holl gytundebau ar waith gennym i’n helpu i ymdopi ag amodau gwael a gallu mynd allan gyda chyn lleied â phosibl o amhariad.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Mae gennym fflyd o gerbydau graeanu wedi’u cynnal a’u cadw’n dda iawn, a 30 o wirfoddolwyr o’r adran Strydwedd sy’n gweithio’n galed a chamu i mewn i yrru’r cerbydau – byddwch yn cofio’r tywydd y llynedd, a buont yn gweithio bob awr i gadw’r ffyrdd ar agor ac mor ddiogel ag sy’n bosibl.

Rydym wedi cytuno ar lwybrau graeanu a gallwch eu gweld yma, a bydd 8,000 tunnell o raean ar gael a chaiff y cyflenwad ei ail-lenwi bob tro byddwn yn graeanu’r ffyrdd.

Mae gennym gynlluniau ar waith i gwmpasu cyfnodau estynedig o dywydd difrifol sy’n cynnwys cynlluniau i raeanu ystadau tai (lle mae’n ddiogel i wneud hynny) cyn casgliadau biniau, a chadw ardaloedd fel llety gwarchod a llwybrau ysgol mor glir a diogel ag sy’n bosibl.

“Graeanu neu beidio?”

Hwn yw’r cwestiwn mae ein goruchwylwyr profiadol yn ei wynebu sawl gwaith y dydd. Os byddwn yn graeanu’n rhy gynnar, gallai gael ei olchi i ffwrdd gan y glaw. Os byddwn yn graeanu’n rhy hwyr, gallai fod yn llithrig.

Os hoffech wybod a yw’r cerbydau graeanu allan, gallwch gadw llygad ar ein cyfrif Twitter – neu dilynwch #wxmgrit.

Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!

twitter.com/cbswrecsam |

Rydym hefyd yn anfon negeseuon atgoffa drwy’r system Fy Niweddariadau sy’n anfon negeseuon e-bost at danysgrifwyr yn uniongyrchol – gallwch danysgrifio yma.

Pan ddisgwylir tywydd gwael iawn neu pan fyddwn yn profi cyfnod arbennig o hir o dywydd oer, rhewllyd, byddwn yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi o ran lle i gael gwybodaeth gan gynnwys casgliadau bin a manylion am ysgolion sydd wedi cau, drwy’r blog hwn, ein gwefan www.wrecsam.gov.uk a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol felly cadwch lygad arnyn nhw.

???? Cofiwch wirio eich cerbyd cyn mynd allan yn ystod tywydd gwael neu cyn i’r tywydd gwael gyrraedd. Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor ardderchog a gallwch ei weld yma ond cofiwch adael rhagor o amser ar gyfer eich taith ac arhoswch yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym mor barod ag a allwn fod ac mae gyrwyr wedi bod yn gwirio eu llwybrau graeanu eisoes i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn ac roedd y llynedd yn arbennig, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu dal i symud yn ystod tywydd gwael, sy’n hanfodol i’r economi leol. Cymerwch ofal ychwanegol yn ystod y gaeaf a gwyliwch am rybuddion a chyngor tywydd, a chymerwch yr holl gamau angenrheidiol.”

“Helpu lle gallwch”

Dylech hefyd gadw golwg ar eich perthnasau hŷn neu gymdogion diamddiffyn. Gall tywydd gwael olygu eu bod yn wynebu anawsterau mwy wrth gyflawni tasgau sylfaenol bob dydd fel mynd i’r siop neu swyddfa’r post. Ceisiwch gynnig help lle gallwch – gallai wneud gwahaniaeth i rywun na all fynd allan ar eu pen eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym i gyd yn ei chael yn anodd defnyddio cludiant a chyflawni tasgau dyddiol yn ystod tywydd gwael felly dychmygwch sut mae hi i rywun nad yw’n gallu symud yn dda ac sy’n methu mynd allan o gwbl. Gallech wneud gwahaniaeth mawr i rywun drwy helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth iddynt neu dim ond alw am sgwrs.”

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Common Purpose Ffaglau Goleuni i Ddisgleirio yn Wrecsam
Erthygl nesaf Byddwch yn wyliadwrus o nwyddau pabi ffug Byddwch yn wyliadwrus o nwyddau pabi ffug

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English