Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen O ble daeth hwnna?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > O ble daeth hwnna?
ArallPobl a lle

O ble daeth hwnna?

Diweddarwyd diwethaf: 2018/11/07 at 3:35 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
O ble daeth hwnna?
RHANNU

Mae murlun anhygoel wedi ymddangos yng nghanol y dref, ac aeth y Maer, sef y Cynghorydd Andy Williams, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog, sef y Cynghorydd David Griffiths, draw i gyfarfod y bobl hynny sydd y tu ôl i’r syniad gwych yma.

Mae’r darlun anferthol ar wal allanol Caffi Marubbi’s yn Stryt y Banc yn ganlyniad cydweithio rhwng busnesau ac artistiaid lleol Wrecsam i Goffau’r Rhyfel Mawr gyda Murlun Stryd.

Paentiwyd y deyrnged dros y penwythnos gan Aaron Purvor, perchennog siop leol Geckos ar Stryt y Banc, ac un o wirfoddolwyr y prosiect, Wayne Price, sef un o gyfarwyddwyr Grŵp Busnes Wrecsam ac Undegun.

O ble daeth hwnna?

Meddai Wayne Price, “Cefais fy ysbrydoli gan nifer y bobl oedd eisiau talu teyrnged i’r unigolion dewr hynny a fu farw, a fu’n ymladd neu a fu’n rhan o’r Rhyfel Mawr mewn rhyw ffordd.” Ychwanegodd, “Mae yna nifer o bobl a sefydliadau y mae’n rhaid i mi ddiolch iddyn nhw am eu rhan yng nghyflawni’r murlun hwn. Yn gyntaf, diolch i Mr Marubbi o gaffi Marubbi’s am gynnig ei wal, ac i Aaron o Geckos am ei holl waith dros y penwythnos.  Rhaid i mi ddiolch hefyd am gefnogaeth Grŵp Busnes Wrecsam, CIC, Cyngor Wrecsam am eu cyfraniad drwy eu Cronfa Grant Galluogi ‘Wrecsam Ynghyd’, ac Undegun Arts am eu harbenigedd a’u deunyddiau. Hefyd, rhaid i ni ddiolch i Gynghorau Cymuned Offa a Rhosddu am eu cefnogaeth ar gyfer Prosiect Celf Adeiladau Wrecsam.”

Meddai Aaron Purvor, “Mae gen i berthnasau a fu’n ymladd yn y rhyfel, felly rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weld y murlun o ffenestr fy siop bob dydd.”

Pan ofynnwyd iddyn nhw a oedd ganddyn nhw gynlluniau eraill am brosiectau stryd, atebodd Wayne Price, “Oes gobeithio; rydym ni’n gobeithio cynnal dau brosiect arall ar Stryt y Banc yn y misoedd i ddod. Os hoffai unrhyw un ddod yn rhan o’r prosiect, chwiliwch am y Prosiect Celf Adeiladau ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rhywbeth i’r dyfodol ydi hynny, heddiw, rydym ni i gyd yn hapus clywed y sylwadau cadarnhaol am y coffâd hwn o’r Rhyfel Mawr gan gymaint o’r cyhoedd yn Wrecsam. Tra’r oeddem ni’n paentio, roedd pobl yn cerdded heibio gyda gwên ar eu hwynebau.”

Cytunodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog a’r Maer fod y murlun yn deyrnged addas ac yn ddarn ardderchog o waith celf ar gyfer y coffâd canmlwyddiant arbennig hwn.

Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o weithiau celf i ymddangos yng nghanol y dref dros y misoedd i ddod, felly cadwch olwg amdanyn nhw!

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wayne Price ar: 07425 112 940 neu wayne@undegunarts.com

Rhannu
Erthygl flaenorol Bonjour Wrecsam! Bydd y gwelliannau hyn i ganol y dref yn siŵr o’ch llorio. Bonjour Wrecsam! Bydd y gwelliannau hyn i ganol y dref yn siŵr o’ch llorio.
Erthygl nesaf Cardiff to Holyhead Cyngor Wrecsam yn lobïo am ganolfan drafnidiaeth yn Rhiwabon

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English