Amcangyfrifir bod un miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, a heb roi sylw i hylendid bwyd, mae’n parhau i fod yn broblem yn ystod cyfnod y Nadolig hefyd.
Er mwyn osgoi cael gwenwyn bwyd dros y Nadolig, dilynwch gyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gan Gyngor Wrecsam er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau hwyl yr ŵyl.
Prif Gyngor
- Wrth siopa bwyd ar gyfer y Nadolig, cofiwch fynd â digon o fagiau fel y gallwch chi gadw bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân er mwyn osgoi croeshalogi.
- Darllenwch y cyngor ar label eich twrci er mwyn sicrhau bod gennych chi ddigon o amser i’w ddadmer yn llawn, fe allai gymryd hyd at pedwar diwrnod i ddadmer.
- Peidiwch â golchi twrci amrwd; mae’n tasgu germau ar eich dwylo, eich dillad, offer ac arwynebau.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu’r twrci er mwyn canfod pa mor hir y bydd yn cymryd i’w goginio. Dylech wirio: bod y cig yn stemio’n boeth drwyddo draw; nid ydych yn gweld unrhyw gig pinc wrth dorri i’r darn mwyaf trwchus ac mae’r suddion yn rhedeg yn glir.
- P’un a’ch bod yn defnyddio twrci ffres neu dwrci wedi’i rewi, gallwch ddefnyddio’ch twrci dros ben i greu pryd newydd (felt cyri twrci). Gallwch chi rewi’r pryd newydd hwn, ond dylech sicrhau mai unwaith yn unig yr ydych chi’n ei ailgynhesu.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Meddai Adam Hardgrave, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yr ASB: “Mae’r pedwar hanfod hylendid bwyd: oeri, glanhau, coginio ac osgoi croeshalogi yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig dros y Nadolig.”
“Yn ystod paratoadau’r Nadolig, mae’n bwysig cofio cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser. Cofiwch y gall twrci cyffredin ei faint gymryd pedwar diwrnod i ddadmer yn llawn yn yr oergell, ac mae’n hanfodol coginio twrci yn drylwyr, fel ei fod yn stemio’n boeth, heb unrhyw gig pinc, a bod y suddion yn rhedeg yn glir.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.food.gov.uk/bwyd-yr-wyl
neu dilynwch @fsacymru #BwydyrWyl ar Twitter am gyngor yn dros gyfnod y Nadolig.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]